interesting spectacle(s) – neon neon, praxis makes perfect

Lwcus iawn i gael lle munud olaf i fynd i hwn, ar noson braf dros gwyl y banc. ‘Interesting spectacle(s)’ oherwydd roedd gymaint o hipster specs o gwmpas, anodd deud y gwahaniaeth Gruff ar olivettirhyngddynt a rhai y cast, oedd yn brysur yn dangos rhannau o fywyd Feltrinelli yn y 50au-60au. Ond hefyd, roedd yr holl beth yn gweithio i fi o gwmpas y syniad o ‘spectacle’; bod hynny yn ‘happening’ yn y chwedegau (ar un pwynt mae na placard gyda ‘This is Andy Warhol’ yn cael ei godi, a dyna lle mae Andy Warhol, 10 munud o edrych ar rhywun noeth y cael paent drosti, balwns mawr arian a.y.y.b.), neu ‘spectacle’ terfysgaeth (chwith neu’r dde? cwestiwn yn cael ei godi am rol y CIA yn yr Eidal yn y 60au), neu jest y ffaith bod ni gyd mewn warws off Dumballs Rd yng Ngaerdydd yn cymryd rhan mewn rhywbeth ‘theatr’ yn ogystal â mwynhau Neon Neon.

Ond yng nghanol yr holl beth, cerddoriaeth o’r cd diweddaraf, sydd i fi yn egniol ond yn arnofio fel breuddwyd hefyd. Mae darnau o’r album yn dod a synnau synth dwi heb glywed ers dipyn yn ol i fi, bron yn Jean Michel Jarre-aidd (…cyfaddef i fod yn ffan o hwnnw pan ar wyliau poeth yn Ffrainc ers talwm….). Egniol oherwydd mae’n neidio o gwmpas mewn (yn enwedig y gan Shopping (I like to)). Hoff iawn o’r set  ar y noson gyda dodrefn enfawr, a bod y band am unwaith mewn rhes: drymiwr (gret) ar y chwith, wedyn y bas, wedyn canwr, wedyn Gruff a Boom Bip – ond i gyd mewn rhes, yn lle y drymwir yn y cefn a.y.y.b. Manylyn oedd yn gweithio i fi. Hefyd roedd llwyfannau llai yn symud o gwmpas trwy’r adeg, golygfeydd o fywyd Feltrinelli, felly roedd Gruff ac eraill (Lisa Jen, er enghraifft, oedd yn edrych yn gret hefyd) yn cymeryd rhan yn y canol, neu ar blatform arall symudol o bryd i’w gilydd.

Beth arall oedd yn gweithio oedd y ffordd deniadol yma o ddod a bywyd rhywun hollol newydd i mi yn fyw. Mae’r ffaith fod Feltrinelli wedi cyhoeddi popeth o On the Road i Dr Zhivago (er i Barti Comiwnyddol yr Eidal trio ei wahardd yn dilyn dymuniad y Politburo), yn gwneud o’n rhywun oedd yn dod drosodd yn y fersiwn yma o’i fywyd yn hoff o ryddid i bawb, a gyda gweledigaeth tu hwnt i’r bloc sofiet y pryd. Bod ei arian wedi cael ei ddefnyddio gan grwpiau ‘chwith’ o bob math a’i fod wedi ymddangos fel rhyw fath o Zelig, yn troi fyny mewn lluniau gyda pobol bwysig yn yr 20fed ganrif – chwarae basketball gyda Fidel ymysg yr enwocaf – hyn i gyd yn ei wneud yn ffigwr diddorol.

 

 

The Starry Messenger

Starry Messenger

Starry Messenger

Pleser cael diwrnod o seminarau a trafodaethau yn Stiwt Oakdale yn Sain Ffagan, fel rhan o lansiad arddangosfa Bedwyr yn y Venice Biennale, sef y Starry Messenger. Dwi newydd ail-gydiad mewn seryddiaeth, rhywbeth oedd yn hobi mawr i fi pan yn blentyn ac yn fy arddegau cynnar. Mwy am hynny mewn posts eraill, ond roedd hi’n gret ddoe cyfarfod a seryddwyr amateur profiadol a diddorol fle Moelwyn Thomas a Phil Sheperdson.

Nid yn unig sgyrsiau roedd trafodaethau eraill diddorol gan Daryl Green am lyfr anhygoel Nasmyth a Carpenter am y lleuad. Hefyd, sgwrs ddwys gan Geraint Davies - cerddor, artist a mathemategydd amateur.

Trafodaeth olaf y diwrnod am llwch cosmig yn anhygoel – seryddwraig proffesiynol sef Dr Haley Gomez rhoddodd hwn. Gwaith rili arloesol sy’n defnyddio telesgop Herschel, esboniad newydd o sut mae na gymaint o lwch yn y bydysawd. Felly diwedd diddorol i ddiwrnod oedd wedi trin y gwahaniaeth sydd yna rhwng y byd amateur a phroffesiynol – seryddiaeth yn un o’r maesydd ble mae pobl amateur yn gallu cyfrannu i’r maes hefyd – ond hef yd datblygiad o rhai o themau cynharach Bedwyr e.e. Tyranny of the Meek, Duw a wyr, ond diwrnod diddorol iawn.

Papurau Newydd Cymru ar-lein

Papurau Newydd Cymru ar-lein flyer

Es i lansiad Papurau Newydd Cymru Ar-lein neithiwr, adnodd newydd ffantastig gan y Llyfrgell Genedlaethol. Tra yno, clywed hefyd am y cefndir i’r prosiect, fel rhan o’r gweledigaeth Theatr y Cof, sy’n tarddu o hen syniad yn y canol oesoedd, syniadau Giulio Camillo, fod hi’n bosib dangos holl wybodaeth y byd fel ‘spectacle’. Mae’r prosiect hefyd yn weddol arloesol ac yn rhoi Cymru ar y map fel rhan o brosiect ehangach ewropeaidd. Gyda API hollol agored, mae fyny ni nawr gwneud defnydd o’r peth. Tybed a fyddai’n bosib datblygu cymuned o ‘wneuthurwyr’ yn seiliedig ar y deunydd? A fyddai hynny’n ffordd dda i’r Llyfrgell ddatblygu pethau a hybu defnydd?

Rhwng y canapes a’r gwynebau gwleidyddol, éminence grises arferol sîn gwleidyddol Cymru yn y Pierhead (ble arall? Faint dwi di laru gweld gwynebau rhai ohonnynt, fod bywyd cyhoeddus yma yn golygu fod rhai yn ffynu dim ots pa mor mediocre neu pwdwr mae nhw wedi bod…), mae ‘na rhywbeth fedrwn ni fod yn wirioneddol balch ohonno yn y prosiect yma. Llygedyn o obaith efallai ein bod ni rhyw ddydd yn mynd i stopio bod ar-lein a bod o’r rhyngrwyd ei hun (quote or rywle, ddim cofio lle ‘to no longer be on the web, but of the web’ – rhywle fan ‘ma dwi meddwl).

“Hizkuntza bat ez da galtzen ez dakitenek ikasten ez dutelako,dakitenek hitz egiten ez dutelako baizik”

Roedd y stori yn Golwg 360 am sefyllfa’r iaith yn Sir Gar wythnos diwethaf yn dorcalonnus mewn sawl ffordd, er doedd rhoi’r lot o’r bai ar ddarpariaeth tai cymdeithasol ddim yn deg iawn dwi’n meddwl. Beth sydd wedi aros gyda fi trwy’r wythnos yw un o’r vignettes oedd wrth ochor y prif stori: rhyw gwpwl oedd yn Gymry, wedi eu dwyn i fyny yn y gymraeg ac yn siarad gyda’r plant yn gymraeg, ond ddim yn siarad cymraeg i’w gilydd. 

Dwi’n wedi dod ar draws lot o gwplau fel hyn, yn dallt y dynamic fod pobol yn dod i adnabod eu gilydd mewn un iaith a bod hi’n anodd newid wedyn, ond pan mae’r ddau yn dod o gefndir gwbwl Cymraeg, does dim byd mwy amlwg fod shifft ieithyddol yn digwydd. Ond mae o hyd yn sioc clywed cwpwl yn siarad saesneg gyda’i gilydd (….yn aml hefyd, saesneg weddol ‘tlawd’ mae gen i ofn….), a wedyn gweld nhw’n troi rownd a sairad cymraeg perffaith gyda’r plentyn. Yn amlwg, beth bynnag yw’r amcanion da o yrru plentyn try addysg gymraeg ayyb, dwi’n tybio fod yna siawns dda neith y plentyn yna ffeindio hi’n anodd wedyn gweld gwerth yn yr iaith mewn unrhyw berthynas agos nes ymlaen – oes yna ymchwil wedi wneud i hyn sgwn i?

Dros y blynyddoedd mae’r gwirionedd yn y ddihareb basgeg uchod wedi dod yn yn rhywbeth dwi’n weld yn hollol wir: ni chollir iaith oherwydd nad yw’r rhai sydd ddim yn ei wybod ddim yn ei ddysgu, ond oherwydd fod y sawl sydd yn gallu siarad ddim yn gwneud hynny. Llai o gwyno am mewnfudwyr a phbol mewn tai cymdeithasol  efallai.

new digital story


Really enjoyed workshop at Swansea Uni which encouraged us to try and explain some of our research using a digital story format. Workshop run by Prue Thimbleby, and we were a fairly diverse bunch, from experts in big data, to physicists, to people working with algae or in social care. Though I’m quite new to my present field, health literacy, I tried to present my personal journey into the field at present, using some personal stories. These will be shown at the Swansea University Festival of Research later on this month.

Digital storytelling has been on my horizon for a while, and there’s a lively community of people involved. Capture Wales, Storyworks and the work of Daniel Meadows, Gareth Morlais and others are all worth having a look at. I’m currently also trying to get through the massive global #ETMOOC which Gareth pointed me to yesterday, lots of inspirational ideas.

arddangosfa animeiddio

20130119_140130

Arddangosfa diddorol yng nghanol dre, aethon ni draw trwy’r eira. Diddorol gweld hanes animeiddio Cymru; sgôp y peth, faint sydd wedi cael ei gyflawni dros y blynyddoedd. Hanes  a deunydd gan bron i bob cwmni dwi’n ei gofio neu wedi dod ar draws, popeth o Jerry the troublesome Tyke (yn 1925 – gan rhywun o’r enw Sid Griffiths o Gaerdydd) i Rastamouse.

Popeth yn ddiddorol iawn , yr unig beth oedd pan ddaethon ni i Antur Superted Rhyngweithiol uchod, doedd na’m opsiwn Cymraeg i’w weld….felly ddim cweit mor rhyngweithiol a hynny byswn i’n dadlau. Dim digon o signal ar y pryd i tweetio am hyn i Hacio’r Iaith 2013, lle o’n i fod dros y penwythnos ond di methu mynd oherwydd yr eira.

 

ymchwil newydd, llythrennedd iechyd

Newydd ddechrau ym mhrifysgol Abertawe, mewn maes newydd i fi sef llythrennedd iechyd, ac fyddai’n edrych ar rhwydweithiau cymdeithasol pobol hyn (defnyddio’r Convoy Model), yn enwedig rhai sydd yn byw gyda unai iselder neu diabetes – ond y prif nod yw gweld beth yw eu llythrennedd iechyd, gan ystyried fod hwn yn rhywbeth cyhyrchiol, sy’n newid dros fywyd. Gweithio gyda Dr Michelle Edwards ar hyn.

Gwaith ansoddol fydd hwn, ac mae’n dod ar ben prosiect hirdymor mawr sydd wedi bod yn mynd ers tua 1991, sef CFAS: mae dipyn o’r gwaith yma wedi wneud eisioes o Brifysgol Bangor, a fyddai’n rhan o dîm ehangach. Wedi dweud hyn, mae’r methdoleg i’r prif astudiaeth yn fwy meintiol, gyda’r tîm ymchwilwyr yn mynd allan i holi sampl ar hap o bobl dros 65, ond drwy defnyddio holiadur penodol, weddol hir. Mae’r prosiect yma wedi creu dros 200 o bapurau pwysig yn y maes. O be dwi’n ddallt, llawer o’r ffeithiau am dementia ac Alzheimers yn deillio o’r astudiaeth bwysig yma bellach, ac mae nhw’n gweithio’n agos gyda Cymdeithas Alzheimers, er enghraifft.

Bydd ein gwaith ni yn fwy agored, mwy o sgwrs na’r holiadur yma. Yn y broses o ddarllenb mwy am  cfendir, onbd cyn mynd am y gwaith, ges i foment clir oedd yn cysylltu pethau i fi yn bersonol, trwy fy ngwaith gyda Inroads neu S4C Cymorth, neu gwaith ymchwil yn y gorffenol sydd wedi edrych ar anghenion iechyd, neu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol. Nes i sylwi, am y tro cyntaf bron iawn, mai wrth wraidd lot o be dwi’n wneud mae syniadau yn ymwneud â hybu iechyd yn yr ystyr a ddaw o ddogfennau pwysig (chwyldroadol…?) fel yr Ottawa Charter.

 

Illness as Metaphor – Susan Sontag

Worth quoting the preface in full, as it elegantly gives you a feeling for the rest of this often quoted book:

Illness is the night-side of life, a more onerous citizenship. Everyone who is born holds dual citizenship, in the kingdom of the well and the kingdom of the sick. Although we all prefer to use only the good passport, sooner or later each of us is obliged, at least for a spell, to identify ourselves as citizens of that other place.

I want to describe, not what it is really like to emigrate to the kingdom of the ill and live there, but the punitive or sentimental fantasies concocted about the situation: not real geography, but stereotypes of national character. My subject is not physical illness itself but the uses of illness itself as a figure or metaphor. My point is that illness is not a metaphor, and that the most truthful way of regarding illness – and the healthiest way of being ill – is one most purified of, most resistant to, metaphoric thinking. Yet it is hardly possible to take up one’s residence in the kingdom of the ill unprejudiced by the lurid metaphors with which it has been landscaped. It is toward an elucidation of those metaphors, and a liberation from them, that I dedicate this inquiry.

Musing on this, Sontag skillfully lays bare a lot of the ways in which we deceive ourselves, and how society creates other fictions around two principal illnesses: TB and cancer. She traces back the and contrasts the Romantic obsession with TB especially. There’s a clarity to this essay: she debunks some of the ways we think about illness, especially cancer; how e canalzily attribute moral or emotional categories to the illness, which in reality might have nothing to do with how it has come about e.g. someone might develop cancer because they’ve been ‘repressed’ emotionally.

However, interesting critique of the essay to be found here, which poses the question that perhaps Sontag should have been kinder in looking at metaphor a way of making meaning in life; however erroneous, it is a part of how we sometimes use narratives to make sense of things. I’ve seen enough serious illness, including cancer, to be convinced that the stories that we tell ourselves can be a source of both comfort and despair, that narrative identity is important. The opening lines of the essay themselves are a masterclass in metaphor, which was probably her point.

 

 

‘sclerotic & red-faced’

Diwrnod ar y polling booths ddoe, ond siom er i ni wneud yn rhyfeddol diolch i waith caled gan y tim lleol….Nes i sylwi fod yna lawer o ddynion yn eu 60au yn rantio am rhoi un i Lundain – ddim sylweddoli mai etholiadau lleol oedd rhain, felly roedd Llafur wedi gwneud job dda ar hynny. Tipyn o beth fyswn i’n galw’n ‘indignant striders’; gwneud display i ddangos pa mor flin oeddent cyn mynd i fewn i bleidleiso, yn enwedig ar ol gweld rosette Plaid. O siarad gyda ambell un arall yn lleol, doedd y stance gan Leanne ar y cwin ddim wedi mynd i lawr yn dda chwaith,  gyda’r run contingent. Eto, trap effeithiol gan Llafur o bosib.

Roedd y cyfri wedyn yn y Star yn agos iawn, wrth i ni wneud yn siwr fod popeth mor deg a phosib. Yr argraff o lot o ymgeiswyr Llafur oedd o ‘gum chewing fly-by-night chancers’ (not…bitter…honest…), ddim rili yn edrych fel pobl lleol o gwbl. Hyn ddim mor wir am Grangetown efallai, er mae hollol syndod bod un o’r ymgeiswyr oedd yn rhan o giwed Goodway wedi cael nol i fewn. Gwaed newydd i’r peiriant di-feddwl. Pob lwc dros y blynyddoedd i ddod.

Trip i Lundain

Cwpwl o ddiwrnodau yn Llundain, aros yn ardal Shoreditch/Hoxton, mewn hotel rili neis, sef yr Hoxton Hotel, oedd yn braf iawn. Awyrgylch gret yn yr ardal, rili creadigol, pawb yn gweithio yn lobby yr hotel ar eu ipads, buzz am y lle. Roedd un diweddaraf Gilbert & George yn y Whitecube ar Hoxton Square, ffyni iawn ac eitha cutting am y syniad o jubilee.

Digon i’w weld yn yr ardal hefyd, ac un peth dyma ni’n sylwi oedd fod yn dipyn o enwau Cymraeg o gwmpas: siopau bach fel Jessie & Buddug, i lawr ar Columbia Rd neu labeli mewn siopau’n gwerthu stwff i’r ty (nid jest Melin Tregwynt…). Ond hefyd, ambell i enw fel Jones mewn llefydd annisgwyl rhywsut.

Gafon ni amser i ymlwybro tua’r canol hefyd, i wario ychydig o amser mewn hen fefrynnau fel y Coach & Horses, a hen coctels fantastic yn yr Hix bar/ Mark’s Bar – rili werth edrych ar y menu (a blasu ambell un) o’r coctels.