Lwcus iawn i gael lle munud olaf i fynd i hwn, ar noson braf dros gwyl y banc. ‘Interesting spectacle(s)’ oherwydd roedd gymaint o hipster specs o gwmpas, anodd deud y gwahaniaeth
rhyngddynt a rhai y cast, oedd yn brysur yn dangos rhannau o fywyd Feltrinelli yn y 50au-60au. Ond hefyd, roedd yr holl beth yn gweithio i fi o gwmpas y syniad o ‘spectacle’; bod hynny yn ‘happening’ yn y chwedegau (ar un pwynt mae na placard gyda ‘This is Andy Warhol’ yn cael ei godi, a dyna lle mae Andy Warhol, 10 munud o edrych ar rhywun noeth y cael paent drosti, balwns mawr arian a.y.y.b.), neu ‘spectacle’ terfysgaeth (chwith neu’r dde? cwestiwn yn cael ei godi am rol y CIA yn yr Eidal yn y 60au), neu jest y ffaith bod ni gyd mewn warws off Dumballs Rd yng Ngaerdydd yn cymryd rhan mewn rhywbeth ‘theatr’ yn ogystal â mwynhau Neon Neon.
Ond yng nghanol yr holl beth, cerddoriaeth o’r cd diweddaraf, sydd i fi yn egniol ond yn arnofio fel breuddwyd hefyd. Mae darnau o’r album yn dod a synnau synth dwi heb glywed ers dipyn yn ol i fi, bron yn Jean Michel Jarre-aidd (…cyfaddef i fod yn ffan o hwnnw pan ar wyliau poeth yn Ffrainc ers talwm….). Egniol oherwydd mae’n neidio o gwmpas mewn (yn enwedig y gan Shopping (I like to)). Hoff iawn o’r set ar y noson gyda dodrefn enfawr, a bod y band am unwaith mewn rhes: drymiwr (gret) ar y chwith, wedyn y bas, wedyn canwr, wedyn Gruff a Boom Bip – ond i gyd mewn rhes, yn lle y drymwir yn y cefn a.y.y.b. Manylyn oedd yn gweithio i fi. Hefyd roedd llwyfannau llai yn symud o gwmpas trwy’r adeg, golygfeydd o fywyd Feltrinelli, felly roedd Gruff ac eraill (Lisa Jen, er enghraifft, oedd yn edrych yn gret hefyd) yn cymeryd rhan yn y canol, neu ar blatform arall symudol o bryd i’w gilydd.
Beth arall oedd yn gweithio oedd y ffordd deniadol yma o ddod a bywyd rhywun hollol newydd i mi yn fyw. Mae’r ffaith fod Feltrinelli wedi cyhoeddi popeth o On the Road i Dr Zhivago (er i Barti Comiwnyddol yr Eidal trio ei wahardd yn dilyn dymuniad y Politburo), yn gwneud o’n rhywun oedd yn dod drosodd yn y fersiwn yma o’i fywyd yn hoff o ryddid i bawb, a gyda gweledigaeth tu hwnt i’r bloc sofiet y pryd. Bod ei arian wedi cael ei ddefnyddio gan grwpiau ‘chwith’ o bob math a’i fod wedi ymddangos fel rhyw fath o Zelig, yn troi fyny mewn lluniau gyda pobol bwysig yn yr 20fed ganrif – chwarae basketball gyda Fidel ymysg yr enwocaf – hyn i gyd yn ei wneud yn ffigwr diddorol.
