Category Archives: travel

Trip i Lundain

Cwpwl o ddiwrnodau yn Llundain, aros yn ardal Shoreditch/Hoxton, mewn hotel rili neis, sef yr Hoxton Hotel, oedd yn braf iawn. Awyrgylch gret yn yr ardal, rili creadigol, pawb yn gweithio yn lobby yr hotel ar eu ipads, buzz am y lle. Roedd un diweddaraf Gilbert & George yn y Whitecube ar Hoxton Square, ffyni iawn ac eitha cutting am y syniad o jubilee.

Digon i’w weld yn yr ardal hefyd, ac un peth dyma ni’n sylwi oedd fod yn dipyn o enwau Cymraeg o gwmpas: siopau bach fel Jessie & Buddug, i lawr ar Columbia Rd neu labeli mewn siopau’n gwerthu stwff i’r ty (nid jest Melin Tregwynt…). Ond hefyd, ambell i enw fel Jones mewn llefydd annisgwyl rhywsut.

Gafon ni amser i ymlwybro tua’r canol hefyd, i wario ychydig o amser mewn hen fefrynnau fel y Coach & Horses, a hen coctels fantastic yn yr Hix bar/ Mark’s Bar – rili werth edrych ar y menu (a blasu ambell un) o’r coctels.

gwyliau yn y gorllewin

Wedi cael pythefnos yn carafanio, am y tro cyntaf mwy neu lai, a gwario’r rhan fwyaf yn gwylltio pobl ar hyd yr A487. Wedi gwario amser yng Nghriccieth, Porthmadog, wedyn Aber ac i lawr i Ty Ddewi. Ychydig o luniau ar gael yma.

Rhai o’r llefydd diddorol fuon ni yn cynnwys Gerddi Brondanw ar bnawn gwlyb, ar ôl bod i fyny i stiwdios/caffi celf braf iawn yng Nghroesor (a peint sydyn wedyn yn Y Ring, Llanfrothen).  Ar y tren bach i Ffestiniog hefyd, wrth gwrs. Tywydd ddim yn anhygoel, digon gwyntog yn y garafan. Yr ail wythnos, i lawr i Fae Caerfai, jest tu allan i Ty Ddewi, hyfryd iawn. Arddangosfa diddorol o stwff Graham Sutherland ac eraill yn Oriel y Parc, ymweliad arall i’r Sloop ac ymlacio’n gyffredinol. Ar y ffordd nôl, ymweld a’r Canolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, rhywle diddorol, llawn ysbrydoliaeth – a dipyn mwy o Gymraeg nag oeddem yn ei ddisgwyl!

Euskaldunak Gara

Hi, Welsh “Frinds”.

 

This is “Jarri” from DONOSTIA (SAN SEBASTIAN), the most beautiful city in EUSKADI-Basque Country.

 

Regards to all of you that are coming to the football game in May and especially to AELWYN (kopetatxuri), my best friend in CYMRU.

 

I hope that you have a nice time here and i am sure we will have a nice party before and after the game. The result is not important (but we will win for sure ;-) ).

 

Eskuminak euskalerritik galestar guztientzat eta bereziki zuri, Aelwyn laguna!!!

 

Gora Euskadi eta Gora Cymru!!!!

 

Jarri.

Caerdydd – Gatwick – Fez – Marrakesh

Siwrna di-lol: Caerdydd i Gatwick ar y bws, trwy popeth yn hawdd, wedyn yn Gatwick aros cwpl o oriau am yr awyren. Ar y ffleit, cyfarfod a dechrau siarad gyda dynes hŷn or enw Jean, oedd yn eistedd gyferbyn. Roedd Jean o Essex, mynd allan i Marrakech am y pedwerydd gwaith – cariad (ifanc?) allan yno medda hi. Distawrwydd i ddechra wedyn y stori bywyd, er fod ddim gwir diddordeb o’n hochor ni. Wedi gwisgo mewn tracksuit Umbro du ac yn amlwg newydd cael gwneud ei gwallt a’i hewinedd. Rhywbeth eitha Janet Street Porter –aidd  amdani (nid jest yr acen).  Dysgom fod: hi’n nain, ei merch yn briod ac Algerian (a bod hi, y ferch, wedi troi tuag at Islam, tra bod ei gwr yn troi’n fwy gorllewinol), bod ei cyn-wr wedi priodo tair gwaith a fod ei wraig presennol o Thailand, bod Jean ei hun yn gweithio yn y Ddinas yn Llundain, ac ei bod hi’n meddwl gwerthu popeth er mwyn prynu rhywle ym Marrakech. Ei lle ffefryn yn Marrakech oedd y Jemaa, rhaid rhaid rhaid mynd i’r Jemma. Ar ôl glanio, dwedsom ffarwel, pob lwc…

P’tit taxi yn syth i ganol y dref, a chael ein gollwng digon agos mwy neu lai – ond dim digon agos. Deng munud o chwilota ac edrych yn y Rough Guide yn ddiweddarach, gan drio peidio edrych yn rhy amlwg ein bod ni’m yn gwybod y ffordd. Hmmm, anodd gyda phaciau mawr ar y cefn. Y stryd gyntaf yn un rhodfa  fawr boeth o bobl yn mynd a dod, ond dim gormod o bobl yn haslo.

Jemaa el Fnaa, lle y meirw yn y ôl un cyfieithiad, yn y tywyllwch y tro cyntaf, mwg mawr bob math o gig y cael ei goginio yn codi i’r awyr o’ch blaen, goleuadau trydan yn rhoi bywyd i’r mwg. Lle hollol wallgo i’n llygaid ni mewn ffordd, swn aruthrol bob math o ddrwm neu pib yn yr awyr. Ar ôl setlo mewn i’r hotel (Jnane Mogador), un steil riad braf gyda ffynon yn y canol, yn edrych i fyny ar y ser, aethom allan i eistedd ar  deras ar ochor y sgwar a’i thorfeydd amryliw o bobl yn mynd a dod, gweiddi, gwrando a sgwrsio, jeans, djellabas a pibgyrn. Te mintys cyntaf, melys iawn. Wedi blino, nol am nightcap hapus, ar wyliau o’r diwedd.

Jemaa gyda'r nos