Category Archives: histories

new digital story


Really enjoyed workshop at Swansea Uni which encouraged us to try and explain some of our research using a digital story format. Workshop run by Prue Thimbleby, and we were a fairly diverse bunch, from experts in big data, to physicists, to people working with algae or in social care. Though I’m quite new to my present field, health literacy, I tried to present my personal journey into the field at present, using some personal stories. These will be shown at the Swansea University Festival of Research later on this month.

Digital storytelling has been on my horizon for a while, and there’s a lively community of people involved. Capture Wales, Storyworks and the work of Daniel Meadows, Gareth Morlais and others are all worth having a look at. I’m currently also trying to get through the massive global #ETMOOC which Gareth pointed me to yesterday, lots of inspirational ideas.

Illness as Metaphor – Susan Sontag

Worth quoting the preface in full, as it elegantly gives you a feeling for the rest of this often quoted book:

Illness is the night-side of life, a more onerous citizenship. Everyone who is born holds dual citizenship, in the kingdom of the well and the kingdom of the sick. Although we all prefer to use only the good passport, sooner or later each of us is obliged, at least for a spell, to identify ourselves as citizens of that other place.

I want to describe, not what it is really like to emigrate to the kingdom of the ill and live there, but the punitive or sentimental fantasies concocted about the situation: not real geography, but stereotypes of national character. My subject is not physical illness itself but the uses of illness itself as a figure or metaphor. My point is that illness is not a metaphor, and that the most truthful way of regarding illness – and the healthiest way of being ill – is one most purified of, most resistant to, metaphoric thinking. Yet it is hardly possible to take up one’s residence in the kingdom of the ill unprejudiced by the lurid metaphors with which it has been landscaped. It is toward an elucidation of those metaphors, and a liberation from them, that I dedicate this inquiry.

Musing on this, Sontag skillfully lays bare a lot of the ways in which we deceive ourselves, and how society creates other fictions around two principal illnesses: TB and cancer. She traces back the and contrasts the Romantic obsession with TB especially. There’s a clarity to this essay: she debunks some of the ways we think about illness, especially cancer; how e canalzily attribute moral or emotional categories to the illness, which in reality might have nothing to do with how it has come about e.g. someone might develop cancer because they’ve been ‘repressed’ emotionally.

However, interesting critique of the essay to be found here, which poses the question that perhaps Sontag should have been kinder in looking at metaphor a way of making meaning in life; however erroneous, it is a part of how we sometimes use narratives to make sense of things. I’ve seen enough serious illness, including cancer, to be convinced that the stories that we tell ourselves can be a source of both comfort and despair, that narrative identity is important. The opening lines of the essay themselves are a masterclass in metaphor, which was probably her point.

 

 

siop bach yn mharis

Shakespeare & Co, Paris

Clywed bore ‘ma fod Roger Whitman, wnath sefydlu’r siop Shakespeare & Co ym Mharis wedi marw (98 mlwydd oed, sy’n profi fod darllen a byw ym Mharis yn bethau da i wneud). Siop lyfrau diddorol, llawn cymeriad, ddim ym mhell o Notre Dame ar y rive gauche. Dwi’n cofio hitchio yno o Leeds rhyw haf yn nechrau’r 90au, ar ol darllen gymaint am y Beats i fy ngwaith coleg (ac o fy niddordeb i fy hun), yn enwedig Memory Babe am Kerouac a bywgraffiad Barry Miles o Alan Ginsberg, ond roeddwn i’n ddigon hapus hefyd i ddarllen fy ffordd trwy Burroughs ac ambell i gymeriad arall o’r cyfnod, yn cynnwys y beirdd  Garry Snyder, Gregory Corso a Lawrence Ferlinghetti.

Mae Ferlinghetti a Snyder dal yn fyw, yr ychydig  rai o’r genehedlaeth Beat sydd ar ôl, ac roedd ‘na gysylltiad cryf rhwng y siop ym Mharis a siop/busnes cyhoeddi Ferlinghetti  yn San Francisco, sef  City Lights, oedd yn dyngedfenol o bwysig i bopeth Beat. Y cyntaf i gyhoeddi Howl Ginsberg, bu achos enwog yn erbyn City Lights am gyhoeddi deunydd anweddus. Heb ennill yr achos yna, byddai rhyddid pobl i gyhoeddi yn y cyfnod gormesol yma yn yr Unol Daleithiau wedi bod llawer llai, a byddai’n bosib dadlau mae hwn oedd dechrau’r counterculture mewn ffordd. Mae’r ddwy siop lyfr yma yn enwog am gael perfformiadau gan sgwennwyr enwog (a ddim mor enwog), er dwi’m yn cofio gweld dim pan yno. Lluniau da ar Tumblr yn rhoi blas o’r lle.

Methu fforddio mynd i San Francisco ar y pryd, felly penderfynais ddilyn fy mawd am antur i Paris, gyda’r syniad yn fy mhen y byswn i’n gallu pigo fyny cwpwl o lyfrau diddorol. Lawr yr M1, trwy Llundain, bws i Dover a truck driver cyfeillgar (ie, roedden nhw’n bodoli ar y pryd), ac i lawr a fi, ffeindio fy hyn yn y Gare du Nord. Lot o hwyl, gwario gormod o amser mewn bariau  fel Qui etes vous, Polly Magoo?  yn ogystal a’r darn bach yna o Paris oedd yn fy nghysylltu i’r  Beats, yn fy mreuddwydion o leiaf. Lot fawr o lyfrau gan cyhoeddwyr bychain o’r Unol Daleithiau, os dwi’n cofio’n iawn, oedd yn egsotig iawn i lyfrbryf ifanc o Gyffordd Llandudno. Ddois i nol gyda casgliad o draethodau Burroughs (The Adding Machine, werth darllen, y copi dal geni rhywle), yn sgint ond pen llawn atgofion melys iawn cyn dechrau blwyddyn arall yn coleg.

diwedd cyfnod y space shuttle

Dwi edi bod yn teimlo’n eitha trist am hyn, mae’r shuttle wedi bod yng nghefndir bywyd rhywun ers pan oeddwn i tua 9 mlwydd oed. Seryddiaeth ac aeronautics oedd fy mheth i pan yn hogyn bach, hollol gutted pan ddwedson nhw mod i’n lliwddall a felly byswn i byth yn cael bod yn beilot, heb son am astronaut….

Space Shuttle Atlantis yn glanio am y tro olaf

Hanes technegol eitha trylwyr ar gael o’r llefydd arferol yn cynnwys NASA. Nes i sgwennu llythyr i NASA pan oeddwn i tua 10, aerogramme ar bapur arbennig, a sawl mis wedyn ges i parsel yn ol O AMERICA gyda lluniau o’r test flight cyntaf gan Columbia yn 1981, a pac addysgiadol. Nes i ecseitio’n lan.

Dros y blynyddoedd wedyn, ac fel oedd rhywun yn darganod pethau eraill mewn bywyd, roedd dal  rhywbeth arbennig am glywed fod y shuttle wedi cyflawni pethau, yn enwedig Hubble. Gyda trychineb y Challenger, a’r Comisiwn Rogers ddaeth wedyn, ddois i ar draws Richard Feynman am y tro cyntaf hefyd, dwi’n cofio ei esboniad i’r wasg o beth oedd wedi methu yn y Challenger, yn glir- roedd o’n ffigwr mor charismatic, diddorol. Daeth na raglen Horizon allan yn y 90au oedd yn dangos y cyfan, werth ei wylio.

Ond mewn ffordd, mae’r holl ffordd o edrych ar beth da ni’n ei wneud yn y gofod wedi newid gymaint o’r 70au, pan o’n i’n blentyn. Digwydd bod daeth Bladerunner allan yn 1981 hefyd wrth gwrs, efallai fel ateb i’r genre opera-gofodaidd oedd wedi ysbrydoli ni fel plant ifanc, sef Star Wars. Aeth Bladerunner a ni ddyfodol arall, lle roedd y mewnol a’r athronyddol yn bwysicach. Does dim voice over yn Star Wars. Roedd Bladerunner hefyd yn adlewyrchiad  efallai o syrffed pobl gyda dadleuon ideolegol da/drwg, comiwynddiaeth/cyfalafiaeth, dwyrain/gorllewin yr 20fed ganrif. Roedd y Space Shuttle, gymaint a’r Saturn series gynt, yn arfau yn y dadleuon yna, ac er nad oes posib dadlau fod yna gymaint wedi gyflawni ym meysydd peirianeg, cyfathrebu, mapio a.y.b. mae technoleg wedi troi mwy at y bychan, y micro, y sub-atomic llawer mwy erbyn hyn.

Ond dwi dal i edrych i fyny a mynd  ‘Waw!’ o bryd i’w gilydd, fel oeddwn i’n 7 mlwydd oed. Pwysig gwneud dwi’n meddwl.

Erthygl diddorol yn yr Economist

ffrynt ddiwyllianol y basgwyr ac eisteddfod llangollen

Newydd fod yn gweithio gyda chwmni teledu ar gyfweliadau o Wlad y Basg, rhai gyda grŵp dawns, Gero Axular , fydd yn dod i eisteddfod Llangollen wythnos nesaf, dod a thipyn o atgofion  personol am y lle ond hefyd sylweddoli fod yna stori dda arall i’w adrodd am gysylltiadau’r wyl gydag Euskal Herria.

Dwi’n cofio siarad gyda phobl hyn pan oeddwn i’n byw yn Donostia / San Sebastián, a chanfod eu bod nhw’n gwybod am eisteddfod Llangollen, a mwy na hynny, yn cysidro’r wyl yn un bwysig dros y blynyddoedd. Ond i fod yn onest, hyd i fi drio cyfieithu ychydig o gyfweliadau i wythnos diwethaf a gwneud bach o ymchwil, nes i’m sylweddoli faint . Mae’r rhestr o gorau a grwpiau dawns sydd wedi ennill dros y blynyddoedd yn ddigon parchus o ran ei faint, gyda rhai o’r grwpiau yma dal yn bodoli, a gyda phresenoldeb neu hanes ar gael ar y we:

Coro Easo , San Sebastián (côr dynion, 1949)

Coro Maitea, San Sebastián (côr merched, 1949),

Agrupacion Coral, Elizondo ( parti canu, 1952),

Agrupacion Coral, Elizondo ( côr cymysg, 1952)

Grupo de Danzas Vascas Goizaldi, (parti dawnsio, 1956)

Andra Mari, Galdacano (parti dawnsio, 1968)

Eskola, San Sebastián (parti dawnsio, 1991)

Kresala Euskal Dantza Taldea, San Sebastian (parti dawnsio, 1997)

 

 

Ond dwi’n meddwl fod y pwysigrwydd yn dod o’r rhai wnaeth ennill yn y 40au, 50au a 60au, pan oedd gorthrwm Franco o ddiwylliant Basgaidd ar ei anterth. Byddai’r ychydig oedd yn cael mentro tu allan i’r wlad yn y cyfnod yn mynd a neges am eu diwylliant oedd yn un yn llythrennol tu hwnt i afael Franco yn ystod wythnos yr eisteddfod. Roedd y cof yma dal yn fyw ymysg pobl Donostia yn enwedig.

Daeth twf cenedlaetholdeb yn y 60au a’r 70au cynnar o’r ffrynt ddiwylliannol (fel strategaeth arall, hynny yw llaw yn llaw a strategaeth wleidyddol y PNV ac eraill) cerflunwyr rhyngwladol fel Chillida ac Oteiza , neu trwy unigolion oedd yn canu caneuon yn yr iaith: Mikel Laboa , Benito Lertxundi ac eraill, er enghraifft yn Ez Dok Amairu- yn hynny o beth, debyg hefyd i dwf cenedlaetholdeb y canwr-awdur yma yng Nghymru (Dafydd Iwan, Meic Stevens et al).

Felly mae’n bwysig hefyd meddwl am y twf a ddigwyddodd mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig dawns Basgaidd yn y cyfnod, a sut roedd hyn yn plethu i mewn i weithgareddau o ddiwylliannau tu oedd o bosib tu allan i’r wladwriaeth arferol. Dwi’n amau hefyd fod hyn yn cael ei gysidro’n bwysig fel ymgais i geisio dod ac Ewrop yn agosach ar ôl y rhyfel.

 

 

Hanes Jim Norris, cymydog

Fues i mewn angladd un of fy nghymdogion ar y stryd ddoe, Jim. Dyn mawr cyfeillgar gyda gwyneb crwn, ond fel mae’r pethau ‘ma yn rhy hwyr, glywais i stori beth ddigwyddodd iddo fo yn ystod y rhyfel. Un o Grangetown erioed, fuodd o’n yr RAF yn ystod y rhyfel, ac mae’r stori yn un rhyfeddol. Does dim llawer o’r pobl y cenhedlaeth yna ar ol, ond mae yna straeon o bob math yn dod allan ar ein stryd ni yn raddol, yn cynnwys Mr a Mrs Shah nath ffoi o Uganda.