Category Archives: comment

“Hizkuntza bat ez da galtzen ez dakitenek ikasten ez dutelako,dakitenek hitz egiten ez dutelako baizik”

Roedd y stori yn Golwg 360 am sefyllfa’r iaith yn Sir Gar wythnos diwethaf yn dorcalonnus mewn sawl ffordd, er doedd rhoi’r lot o’r bai ar ddarpariaeth tai cymdeithasol ddim yn deg iawn dwi’n meddwl. Beth sydd wedi aros gyda fi trwy’r wythnos yw un o’r vignettes oedd wrth ochor y prif stori: rhyw gwpwl oedd yn Gymry, wedi eu dwyn i fyny yn y gymraeg ac yn siarad gyda’r plant yn gymraeg, ond ddim yn siarad cymraeg i’w gilydd. 

Dwi’n wedi dod ar draws lot o gwplau fel hyn, yn dallt y dynamic fod pobol yn dod i adnabod eu gilydd mewn un iaith a bod hi’n anodd newid wedyn, ond pan mae’r ddau yn dod o gefndir gwbwl Cymraeg, does dim byd mwy amlwg fod shifft ieithyddol yn digwydd. Ond mae o hyd yn sioc clywed cwpwl yn siarad saesneg gyda’i gilydd (….yn aml hefyd, saesneg weddol ‘tlawd’ mae gen i ofn….), a wedyn gweld nhw’n troi rownd a sairad cymraeg perffaith gyda’r plentyn. Yn amlwg, beth bynnag yw’r amcanion da o yrru plentyn try addysg gymraeg ayyb, dwi’n tybio fod yna siawns dda neith y plentyn yna ffeindio hi’n anodd wedyn gweld gwerth yn yr iaith mewn unrhyw berthynas agos nes ymlaen – oes yna ymchwil wedi wneud i hyn sgwn i?

Dros y blynyddoedd mae’r gwirionedd yn y ddihareb basgeg uchod wedi dod yn yn rhywbeth dwi’n weld yn hollol wir: ni chollir iaith oherwydd nad yw’r rhai sydd ddim yn ei wybod ddim yn ei ddysgu, ond oherwydd fod y sawl sydd yn gallu siarad ddim yn gwneud hynny. Llai o gwyno am mewnfudwyr a phbol mewn tai cymdeithasol  efallai.

that goth time of year

For various reasons I have compulsion to listen to Dead Can Dance, especially the album Aion, at this time of year. Happens every year, just like some people need to read A Christmas Carol on the run up to the end of December, or listen to Bill Burroughs with his heartwarming tale. I really like ‘Fortune Presents Gifts Not According to the Book’, based on poem by the Luis de Góngora, but I love the rest of it too. Given the right mood, I get into all that court music from the 15th-16th centuries, which the Catalan Jordi Savall and Hespèrion XXI interpret so well. It might all stem back many years ago, when I used to go to Haro on crisp days in November, drink red wine and eat cod-filled red peppers in small villages in the Rioja Alavesa, or maybe too many nights listening to Late Junction at the end of the 90′s. All jumbled up there in my head at this time of the year.

Thankfully, for my nearest and dearest, this only lasts for a few days.

goiena, arrosa eta la polla

Erthygl diddorol yn Golwg 360 , ac mae’n werth edrych ar  papur Txema Ramirez ar ‘The Basque Country as Alternative Media Laboratory‘ . Roedd yr 80au yng Ngwlad y Basg yn gyfnod gwyllt, cyffrous a thrist mewn sawl fordd. Roedd sawl theori am pam fod yna gymaint o heroin o gwmpas, er enghraifft, fel nath y newyddiadurwr dewr o Egin Pepe Rei, nath colli ei fab i’r epidemig, geisio ei brofi. Mewn cyfnod o ddirwasgiad a diweithdra (hmmmm, beth sy’n newid), roedd genedigaeth Rock Radikal Vasco yn rhywbeth wnaeth rhoi’r trac sain i bob gaztetxe (yn llythrennol, ‘Ty’r ifanc’) ac okupa (sgwat – roedd cannoedd ar draws Gwlad y Basg yn y cyfnod), yn enwedig yr anfarwol La Polla Records, a bandiau eraill fel Eskorbuto  a Kortatu, cyn bandiau mwy adnabyddus fel Negu Gorriak yn y 90au (Rhys Mwyn a’r Anrhefn o’r un cyfnod, a gyda ambell i stori). Tra roeddwn i’n byw yna yn y 90au, roedd llawer o’r cerddoriaeth a’r bandiau yma dal o gwmpas, yn rhannol oherwydd eu bod yn rhan o’r bloc radicalaidd Basgaidd (er fod rhai fel Eskorbuto yn gwrthod unrhyw label o’r fath, yn naturiol). Doedd dim llawer o grwgnach yn y cyfnod am pwy oedd yn canu ym mha iaith chwaith.

Ond mae erthygl Sion Richards hefyd yn ddiddorol am dynnu sylw i faint o ffyrdd lleol sydd yna o gyfathrebu – trwy radio, papur neu ar y we  – i gymharu a ni. Werth mynd i weld gwefan Arrosa, er enghraifft , sy’n dangos a lincio i orsafoedd bach  sy’n darlledu ar draws y wlad ar y funud. Mae’n anhygoel, mae rhai ohonnynt wedi bod yn mynd ers blynyddoedd e.e. Tas-Tas Irratia, a rhai dal gyda gwreiddiau yn y gazteteak. Wedi fy atgoffa o’r egni ar lefel y mudiadau gwleidyddol/ieithyddol cymunedol sydd dal yna yng Ngwlad y Basg, a fod pobl yn fwy dueddol o drefnu eu hunain a gwneud pethau, heb ddisgywl am grantiau neu go ahead swyddogol (os rhywbeth, yn enewedig yn y cyfnod nes i fyw yna, roedd y rhan fwyaf yn erbyn unrhyw sefydlaid, a’r rhan fwyaf o bethau ‘swyddogol’).

Mae’n werth mynd i edrych ar  Goiena, dim ots faint o Fasgeg mae rhywun yn ei ddallt.  Papur bro ar steroids, a beth fydda rhywun yn hoffi weld mwy ohonno yma. Mae’r manylion bach dwi rioed wedi weld yn digwydd yn y Gymraeg e.e. mae pen y tudalen yn eich rhybuddio fod bar llywio y browser ddim yn y Basgeg, ac yn cynnig i chi newid hynny. Mae hyd yn oed edrych ar tudalen coffa ar y gwaelod yn ddiddorol (mae cael lluniau fel ‘na o’r pobl sydd wedi gadael y byd ‘ma yn gyffredin yn y papurau newydd draw yna hefyd – ond i weld popeth mewn lliw…). Sylwi fod yna rhyw fath o nawdd gan Llywodraeth Gwlad y Basg, sy’n amlwg gyda presenoldeb/strategaeth cyflawn i bethau fel hyn a hefyd talaith Guipuzkoa (Gwynedd ar steroids mewn ffordd…bydda ‘na bapur diddorol yn cymharu cynnwys y ddau wefan ‘swyddogol’ i rhyw fyfyriwr).

euskal herrian bake? efallai, ond….

Falch o weld fod yna ymdrech i symud ymlaen yng Ngwlad y Basg gyda’r cyhoeddiad wythnos ddiwethaf,  ar ôl y cynhadledd yn Donostia. Cyfraniad diddorol gan Gerry Adams ar gael, yn dangos y linc sydd wedi bod gyda elfennau mwy blaengar yr eglwys Gatholig. Hefyd, mae yna dipyn o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir, dros amser, gan y cyfreithiwr o Dde Affrica ( a hen law bellach ar brosesau heddwch…), Brian Currin.

Mae sylwadau Currin hefyd ar y sefyllfa ddiweddar (weddol hurt) fod y llysoedd yn Madrid wedi rhoi Arnaldo Otegi yn y carchar am 10 mlynedd, yn llygad ei le, ac i fi yn pwyntio at y problemau sydd i ddod. Mae problemau Gwlad y Basg yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio gan y PP a’r PSOE i geisio ennill pleidleisiau. Handi iawn fod y broses yma yn digwydd jest cyn etholiadau, a pan yn byw yna, dwi’n cofio roedd hi’n llawer haws i bob gwleidydd yn Madrid son am ETA  na sut i gael gwared â ddiweithdra cronig ymysg pobl ifanc, problem ers degawdau. Roedd ETA yn gwneud pethau mor lletchwith yn erbyn diddordebau’r Basgwyr ar brydiau yn y cyfnod fel fod pobl wedi dechrau son mai lluoedd o’r stad Sbaenaidd ei hun oedd tu cefn iddo.

Pwynt arall yw fod yna doublespeak anhygoel yn digwydd trwy’r adeg gan wleidyddion Sbaen; mae camddefnydd y gair democracia , neu gor-ddefnyddio’r gair ar bob achlysur (yn cynnwys Zapatero yn datgan yn syth mai buddugoliaeth i ‘democracia’ oedd y datganiad diweddaraf), yn pwyntio at euogrwydd amlwg post-Franco. Mae yna elfennau hollol anemocratidd dal i fod yn y wlad, yn enwedig ar y dde. Er enghraifft, bu ymgais fwriadol yn ddiweddar gan hanesydd enwog or dde i alw Franco yn ffigwr awdurdodaidd nid totailitaraidd yng ngwyddoniadur swyddogol Sbaen.Enghraifft bach, ond nodweddiadol o’r math o bobl sydd dal yn mewn grym yn yr establishment yn Sbaen.

Byddai’n bosib dadlau fod strategaeth o wahardd unrhwy barti gwleidyddol Sinn Fein-aidd o’r chwith abertzale , gan gynnwys Otegi, wedi helpu dod ag ETA i’r canlyniad presennol. Ond tydi’r egwyddor o wahardd 15-20% o’r boblogaeth rhag bledleisio dros bwy mae nhw eisiau ddim yn iawn yn fy marn i – ac yn amlwg yn annemocrataidd. Gellir dadlau yn hollol rhesymol fod gweithredoedd ETA yn  annemocrataidd, ond pan mae stad yn gwahardd unrhyw lais arall (yn cynnwys papurau newydd Egunkaria ac Egin gynt), mae rhywbeth o’i le. Mae’r hawl i hunan-benderfyniaeth yn dechrau a gorffen gyda’r gallu i gael etholiadau sy’n agored i bawb, beth bynnag yw eu barn. Un o brofiadau nath fy nychryn i fwyaf oedd gweld Egin yn cau; 200,000 o bobl yn protestio ar y stryd yn Donosti am hyn, dim gair ar y teledu na phapurau newydd eraill.

Y cwestiwn arall yw’r carcharorion. Nhw sydd mewn ffordd wedi hwb i’r holl broses trwy ddatgan mis diwethaf eu bod yn cytuno a’r Acuerdo de Gernika, fod angen dilyn llwybr heddychlon i ateb y sefyllfa. Mae’r ffordd fydd y llywodraeth nesaf ar ôl etholiadau’r 20fed o Dachwedd yn eu trin (mwy na thebyg o’r dde) yn dyngedfennol. Does dim ond angen cofio fod unrhyw un sy’n cael ei gyhuddo o wneud unrhwy beth yn gysylltiedig ag ETA yn cael eu dal yn y carchar am 13 diwrnod (fel arfer gan y Guardia Civil) HEB gael gysylltu â neb, yn cynnwys cyfreithiwr, a bod cannoedd o’r carcharorion yn cael eu alltudo i garchardai ymhell o Wlad y Basg.

Mae na lluoedd clir yn erbyn unrhyw fath o ddatrys y broblem, heblaw am sathru ar hawliau Basgwyr yn gyffredinol e.e. yr AVT, ond wedyn ceir ambell i lygedyn o obaith trwy ddarllen erthygl diweddar oedd yn dod a carcharor a mab rhywun gath ei ladd gan ETA at eu gilydd (fersiwn tebygyn y Guardian hefyd). Gobeithio bod hyn hefyd yn cymryd ei le yn yr ymgyrch yn weddill Sbaen i gofio sut mae cyfnod Franco (a’r etifeddiaeth o’r cyfnod) yn cael ei gofio. Mae’n amhosib dallt y sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn iawn heb edrych ar hanes Sbaen yn yr 20fed ganrif yn ei gyfanrwydd, sy’n golygu fod yna llawer mwy o ddioddefwyr wedi bod na’r rhai farwodd trwy weithredoedd ETA.

Dwi hefyd o’r farn byddai hi wedi bod yn bosib dod a’r derfysgaeth i ben blynyddoedd yng nghynt drwy beidio camdrin y carcharorion a pheidio camdrin hawliau democrataidd, ond mae hi wedi bod yn fwy cyfleus i gyfundrefn yn Sbaen (ac ambell i elfen yng Ngwlad y Basg) i anwybyddu hyn yn llwyr.

 

cofnod o’r sgwennu gorau hyd hyn am y cynnwrf

Lot fawr wedi ei sgwennu dros y dyddiau diwethaf, a rhain yw rhai o’r darnau gorau dwi’n meddwl, sy’n rhoi seiliau i ddatblygu unrhyw ddamcaniaeth call. I fi, pan mae cymdeithas ddim ond yn gallu portreadu tlodi o gwbwl  trwy fformat fel Secret Millionaire neu How the Other Half Live , dwy raglen sydd er gyda’r rhinwedd o ddangos tlodi o gwbwl, ond yn diwedd yn portreadu tlodi fel stori/bai yr unigolyn neu teulu unigol fel arfer, mae rhywbeth o’i le. Ond mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd. Mae yna rhai sy’n codi pwyntiau academaidd am hyn, ond dim llawer.

Mae narrative y dde o gyfrifoldeb yr unigolyn, y ‘tlawd teilwng’ i’w glywed yn glir yn barod, ac mae gen i ofn mai hawdd fydd gwthio pobl i gyfeiriad y Dde awdurdodaidd yn hyn i gyd h.y. mwy o blismyn nid mwy o weithwyr gyda’r ifanc a.y.b. Hefyd, bydd y papurau newydd aden dde yn barod iawn i helpu (ac i’n helpu ni i anghofio am sgandals diweddar).

Fedrwn ni ddibynnu ar y chwith/Llafur yn y wlad yma i fethu gwneud stori gall o hyn i gyd, a cynnig unrhyw narrative gwell  – mae nhw wedi methu dros y degawd diwethaf, mae’n amlwg, ac yn foesol, mae  anodd gweld lle bydd eu narrative nhw’n dod, gan eu bod wedi rhoi cyn lleied i newid sefyllfa strwythurol pobl tlawd, wedi bod yn barod iawn i ddilyn a gweithredu fel y dde awdurdodaidd a.y.b. Mae rhai o leiaf yn dechrau sylweddoli pwysigrwydd hyn i gyd, ond mae’n rhy hwyr mewn ffordd – er i ni weld Murdoch yn ei chael hi dros y mis diwethaf, mae’r dde yn arglwyddiaethau yn y rhan fwyaf o’n trafodaethau (discourse yn y Gymraeg?) ers cyhyd, ac ym mhobman (ein gwir etifeddiaeth o Llafur Newydd, yma’n Nghymru hefyd).

Ddim yn trio cyfiawnhau unrhyw weithredoedd brwnt a chas dros y dyddiau diwethaf, ond  fel nath rhywun Tweetio,’Rioting pillocks cause £100 million damage in 4 days. Speculating pillocks cause £5 trillion damage in 3 days’, Os da ni am ddechrau son am unrhyw ‘ofod’ moesol (a faint o hynny da ni mynd i glywed gan y gwleidyddion, newyddiadurwyr ac eraill dros y dyddia nesaf? Rhieni sy’n ei chael hi ar y funud…), mae na ofod go fawr ym moesoldeb pob haen o’n cymdeithas, mae gen i ofn.

Ta waeth, y rhai gorau hyd hyn:

Zoe Williams, Guardian

Gwahaniaeth rhwng cyfoethog a thlawd ym Mhrydain, Reuters

Mary Riddell, Telegraph – yma ac hefyd yma

Moronwatch – na, nid colofn am Piers Morgan, ond cyd destun hanesyddol da i’r reiat, cymdeithas ar ol 9/11 a.y.b.

Camila Batmanghelidjh yn yr Independent

Jon Henley, Guardian, ar y defnydd o iaith dros y dyddiau diwethaf

Fideo, 10 diwrnod yn ol, ar y Guardian site  am cau clybiau i’r ifanc yn Haringey

Seamus Milne, Guardian

Krishnan Guru-Murphy, gurublog, Channel 4

Aditya Chakrabortty, Guardian

Peter Oborne, Telegraph - erthygl da am y ‘gofod moesol’ trwy gymdeithas gyfan

Russel Brand, Guardian

Mwy i ddod, ychwanegu i’r rhestr dros y dyddia nesaf.

DIWEDDARIAD: erthyglau/ymchwil y Guardian, Rhagfyr 2011

 

 

 

 

….where power lies updated

Lance Price, in his book from last year, has a relevant take on what’s currently happening to the  Murdoch empire, and in some ways it has been prescient about all this current sturm und drang.

Politicians and the media (especially print media?) have always enjoyed/suffered relationships which are either fractious or full of (sometimes sinister) synergies, but the last thirty years or so of the Dirty Digger’s imperious ascent has produced the foetid state of affairs we have today. Power really has been perverted, reaching into every sinew of both the private and public spheres, the highly immoral moral tone of the New Right seeking commodified bits of people’s lives to satisfy both a need to sell newspapers and stimulate moral panics, often in the service of an overt neo-liberal economic agenda  (whilst simultaneously following the delusional, post-imperial neo-con instincts of someone like Blair to boot).

Price is both a chronicler of past and first hand observer during the last decade or so. The rot set in when Thatcher waived through the Digger’s takeover of both the Times and Sunday Times in 1981, which should have been referred (even then) to the Monopolies and Mergers Commission, but wasn’t, and the political gerrymandering is very reminiscent of the sleights-of-hand we’ve seen with Jeremy Hunt and co (after Vince Cable’s balls-up):

Any impartial reading of the 1973 Fair Trading Act suggested that Murdoch’s takover must be referred to the Monopolies and Mergers Commission. It was not. The government intervened to protect Murdoch’s interests, something that was to become a habit under both the Conservatives and Labour. The trade secretary, John Biffen, used his powers to exempt those businesses that were deemed ‘uneconomic’. He insisted that he had come under no pressure form Downing Street to reach such a conclusion, an assertion that was greeted with widespread incredulity in parliament and in those sections of Fleet Street that Murdoch didn’t already control.

p252

Harold Evans, his tenure short, tried to assert The Times’ independence and was stopped by ‘Murdoch’s wish that the Times should be valiant for Thatcher in Britain and stalwart for Reagan in the United States’

Further on:

Nobody holds court quite like Rupert Murdoch. Despite having no vote int he UK, carrying an American passport and living abroad, Murdoch’s vast media holdings have allowed him to become accustomed to British political leaders seeking his benediction. He tends to view politicians as little more than a barrier to his commercial interests; there to be overcome by whatever means necessary. They see him as a man with whom they have no choice but to do business.

p332

He goes on to chronicle how Blair did this, which is all pretty depressing, and one wonders how much of the above  really came quite easily to Blair. I can imagine him supping with this malign pontiff of print, his Catholic tendencies sub-consciously in overdrive as he reached for power of his own.

Either way, for now there’s a glimmer of hope that some form of plurality can be developed in the (UK) national press, though I’m not holding my breath (Richard Desmond, anyone?). That the Digger can be transformed into the folk devil (of the political classes at least), is ironic indeed, and I hope this extends to Becky and Jim too. Excellent piece yesterday by Deborah Orr, which begins to acknowledge how much the power we’re talking about here is part of us all, as much as any sad-sack in Wapping.

Llywodraeth, ‘llywodraetholi’ a #senedd2011

Nes i fwynhau’r gynhadledd #senedd2011 ychydig ddiwrnodau’n ôl, yn enwedig cyfraniad Andy Williamson  o’r Gymdeithas Hansard. Yn sicr, roedd yna ymgais yma i geisio edrych ar dechnoleg, ymgyrchu a syniadau o ddemocratiaeth, a hynny ar ddiwrnod olaf ein Cynulliad presennol.

Er fod yr amcanion yn rhai da, a dwi’n siwr wnawn ni weld datblygu tipyn o’r syniadau o’r diwrnod, nes i fedddwl ychydig wedyn bod yn dal broblemau dwfn yn nhermau cysylltu ewyllys da blogwyr, gwleidyddion a phobl sy’n ymwneud a’r cyfryngau yn gyffredinol – a pawb arall yng Nghymru. Mae’r problemau yma’n rhai dwfn, strwythurol sydd efallai angen atebion dwfn, strwythurol, er enghraifft ymgais o ddifrif gan pwy bynnag sydd mewn llywodraeth y tro nesaf i sicrhau fod band eang go iawn ar gael i bawb yn y wlad, rhywbeth yn sicr mae Plaid yn son amdano. A fydd yna ddigon o arian yn cael ei roi i hyn yn gwestiwn mawr – oherwydd tydi strategaeth llywodraeth Llundain (quelle surprise…gadael o i’r farchnad…) ddim yn mynd i’n helpu neb yn y pendraw.

Ond hefyd, ges i’r teimlad fod yna elfen arall sydd ddim yn cael ei drafod lawer. Mae’r syniadau yma o ddinasyddiaeth gweithredol, sy’n rhedeg ar draws pob llywodraeth o bob lliw erbyn hyn, mewn ffordd yn profi pa mor ddwfn mae syniadau neo-rhyddfrydol wedi treiddio. Er yr holl son am agor allan democratiaeth a cael pobl i gyfrannu, ymgais sydd yma i wneud i bobl fod yn fwy gyfrifol am nhwy’i hunain yn y pendraw, cyflyrru mewn ffordd bio-gwleidyddol, annog trwy rhywdweithiau a syniadau o ‘gyfranogaeth’ eu bod yn rhan o ‘lywodraeth’. Ni yw’r llywodraeth a ni sy’n  llywodraethu ein hunain. Wrth i’r stad yng Nghymru hefyd droi i fod yn un sy’n ceisio ‘llywio nid rhwyfo‘ , does dim dwywaith fod hi’n bwysig clywed fwy o leisiau a mwy o sgwrs genedlaethol am y ffordd ymlaen, ond os nad ydi’r rhywdeithiau sylfaenol yna h.y. peipiau band eang, er enghraifft, i bobl allu datblygu cyfryngau/ffyrdd o gyfathrebu newydd ymysg eu gilydd, fydd llywodraeth yn methu, ac unrhyw syniad o ‘ddinasyddiaeth gweithredol’ yn arafach i ddatblygu dwi’n amau.

 

Cenhedlaeth analog olaf

Gwrando ar radio 4 bore ‘ma, Dave Grohl (o bawb) arno fo yn son am Kurt Cobain a thrio gwerthu ei albwm diweddaraf, yn dweud fod o wedi penderfynu recordio mewn stiwdio analog, ar dâp. Atgoffa fi fy mod i’n rhan o’r genhedlaeth analog ddiwethaf, Gen X neu beth bynnag label arall cyfredol sydd ar gael i bawb cafodd ei eni rhywle rhwng canol y chwedegau a dechrau’r wythdegau.

Am eiliad, ddaeth yna ryw falchder ffals i mi wrth shafio, a chofio swn Teen Spirit yn fy mhen, cyn chwalu i mewn i’r stad o hunan-amheuaeth boreol arferol, a chofio mai mwy na thebyg ffordd o drio gwerthu rhywbeth i’r demographic oedd yr holl beth (hmmm gwrando ar Radio 4 ers blynyddoedd, sori Radio Cymru). Ond mae’n wir fod byd oedd yn gynhenid arafach mewn rhai ffyrdd wedi pasio gyda fy nghenhedlaeth, er for y rhieni yn dweud yr un peth yn ol yn 1992 etc. Heneiddio, eh?

Oherwydd diwylliant nostalgia diderfyn bondigrybwyll, yr hiraethu-am-amseroedd-a-fu trope sy’n ogleuo o ddarllen y Daily Mail neu gapeli, sgen i ddim fel arfer llawer i’w ddweud am edrych yn ôl yn ormodol – mae nostalgia wedi bod yn rhan o’n bywyd diwylliannol pop ni fel cenhedlaeth ers o leiaf diwedd y 70au (dwi’n rhoi bai dirywiad gorllewinol ar Happy Days a’r Fonz yn bersonol ). Roedden ni’n cael ei hudo gan ddelweddau kitchen sink y Smiths, brysur yn gwrando ar y Doors, Dylan neu hyd yn oed Bowie (oce, daeth Scary Monsters allan pan o’n i’n ddeg – dal yn ffefryn, ond albwm sy’n dechrau edrych nol mwy nag ymlaen). Acid Jazz, unrhyw un?

Er hyn i gyd, nath rhywbeth fy nharo i am y cyfweliad. Tydi siarad am eich ysfa am hen dechnoleg ddim yn angenrheidiol yn golygu fod pethau hŷn yn fwy ‘dilys’ rhywsut, er bod syniadau o ‘ddilysrwydd’ yn rhinweddau sy’n mynd i galon idiom y math o roc mae’r Foo Fighters yn ei werthu erioed. Er bod y tinc ‘anti-ddigidol’ yma’n rhywbeth dwi’n siŵr sydd wedi helpu Mr Grohl i gael ei sŵn yn ‘iawn’ , ar ddiwedd y dydd, gwerthu CDs (iep, dal yn boblogaidd am y tro – ond ai dim ond i bobl ein cenhedlaeth sydd yn cofio format analog fel LPs?)neu ar-lein yw’r nod.

Ond mae’n nodweddiadol o’n stad fodern hylifol: y miliwnydd o gerddor yn apelio at ryw syniad o ddilysrwydd cerddorol (dosbarth gweithiol hefyd?) trwy ‘hen’ dechnoleg a thechnegau, dim ond i werthu trwy’r dechnoleg ddigidol gyfredol. Hen dric mae Sting yn gwneud gyda’i liwt (ond baby boomer ydi o, be da chi’n disgwyl, jazzer yn smalio bod yn post-punk ac yn smalio chwara reggae – rili, be da chi’n disgwyl?), neu Neil Young (boomer arall) yn ei ddydd yn cwyno am CDs, cyn sylweddoli fod o’n gwerthu shit-loads ohonyn nhw. Mae pawb uchod (yn cynnwys yr un sy’n shafio ar ryw bwynt, dwi’n siŵr) yn cael eu hudo gan ryw syniad o hunaniaeth ‘go iawn’, yn seiliedig ar dechnoleg neu dechnegau sydd wedi pasio i mewn i amser. ‘Pasia’r gitâr ‘na i i gael chwarae Blowin’ in the wind UNWAITH ETO’ ‘Ti’n cofio pan oedden i’n arfer EBOSTIO?’. Ah, dwi’n edrych mlaen i’r great email revival of 2023.

Ond yn sicr mae ‘na nostalgia am hen dechnoleg o’n cwmpas ym mhobman. Fel arfer, sneb gwell na William Gibson (@GreatDismal) i son am hyn.

 

sedation not intoxication

Building on the theme from watching the film last night, it occurred to me how relevant the idea of sedation has become, embedded somwhere in our culture, raising its sleepy head form time to time. From Morpheus in the Matrix to kids in the Valleys taking ketamine, it has become a theme for our début-du-siècle.

‘Daddy, when I grow up I want to be an….anesthetist’.

Seriously. How did Michael Jackson die? Taking an anesthetic. Who’s one of the pivotal heroes in Inception? The chemist/anesthetist. Can’t help but feel the cold hand of Burroughs somwhere behind this all, Dr Benway lurking in the shadows.