Yn ol bob son, mae’r gem yn mynd ymlaen ar yr 20fed – diolch byth. Stwffio FA Sbaen - FIFA di dod allan hefo rhywbeth call, a’r Western Mail yn rhoi bob clod i Toshack . . . .mae”n ymddangos fod bob ticed wedi gwerthu hefyd.
Monthly Archives: April 2006
Newid dyddiad y gem o bosib . . . .
Newydd glywed fod y gem o bosib yn mynd i cael ei ohirio oherwydd fod FA Sbaen isio chwarae gem hwyr Bilbao v Barcelona, sydd bach yn crap os mae pawb wedi bwcio i fod yno erbyn yr 20fed – mae’r FAW wedi dweud fod hyn yn mynd yn ol rheolau FIFA yn ol bob son. Wrth gwrs, tydi FA Sbaen ddim yn rhoi stuff am rhywbeth mae nhw’n gysidro’n warthus eniwe – sef y Basgwyr isio chwarae yn nhim eu hunain . . . .mwy o newyddion o Dragonsoccer.
amsterdam
Untitled
Erthygl bach diddorol yn y Guardian heddiw yn son am y cad-oediad diweddaraf ac yn rhoi rhywfaint o’r cefndir gwleidyddol i beth sy’n digwydd ar y funud. Mae’n ymddangos fod pethau’n gwella, ond mae ‘na dal lot o ffordd i fynd – tydi pobl dal ddim gyda llawer o ffydd yn y llywodraeth Madrid, er bod nhw’n well na’r lot oedd yna gynt.
Euskaldunak Gara
Hi, Welsh “Frinds”.
This is “Jarri” from DONOSTIA (SAN SEBASTIAN), the most beautiful city in EUSKADI-Basque Country.
Regards to all of you that are coming to the football game in May and especially to AELWYN (kopetatxuri), my best friend in CYMRU.
I hope that you have a nice time here and i am sure we will have a nice party before and after the game. The result is not important (but we will win for sure
).
Eskuminak euskalerritik galestar guztientzat eta bereziki zuri, Aelwyn laguna!!!
Gora Euskadi eta Gora Cymru!!!!
Jarri.
mwy o lincs
Reit, gyrru hwn allan i bawb. Mae na lincs ar y chwith i bethau o ddiddordeb, ond yn bwysicach, mae na cwpwl o awgrymiadau am hotels yn San Sebastian ( neu Donostia, i roi ei enw iawn mewn Basgeg . . ). Dwi di aros yn y ddwy, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n ffrindiau gyda’r boi sy’n rhedeg y Hotel Parma – mae’r lle yn handi os am fod yng nghanol yr hen dref ac yn weddol rhad. Dwi di aros hefyd yn yr Hotel Europa sydd dipyn bach fwy moethus ac yn agos iawn i La Concha, sef y prif draeth – ond yn bwysicach, mae hwn hefyd gyda lle i barcio car wrth ymyl.
Mae na fwy o wybodaeth yma am San Sebastian/Donostia am resymau amlwg lle dwi yn y cwestiwn, ond croeso i bobl rhoi unrhyw awgrymiadau i fyny ‘ma . . . .Untitled
Lle i helpu pawb fydd yn mynd allan i weld y gem mis nesa yng Ngwlad y Basg – gobeithio llenwi hwn gyda lincs diddorol a defnyddiol, ateb cwestiynau a malu awyr yn gyffredinol am bopeth i wneud a Gwlad y Basg. ‘Galestarrak gara‘ gyda llaw ydi’r basgeg am ‘Cymry ydym ni/ da ni o Gymru’ . . . .







