Monthly Archives: March 2011

Cenhedlaeth analog olaf

Gwrando ar radio 4 bore ‘ma, Dave Grohl (o bawb) arno fo yn son am Kurt Cobain a thrio gwerthu ei albwm diweddaraf, yn dweud fod o wedi penderfynu recordio mewn stiwdio analog, ar dâp. Atgoffa fi fy mod i’n rhan o’r genhedlaeth analog ddiwethaf, Gen X neu beth bynnag label arall cyfredol sydd ar gael i bawb cafodd ei eni rhywle rhwng canol y chwedegau a dechrau’r wythdegau.

Am eiliad, ddaeth yna ryw falchder ffals i mi wrth shafio, a chofio swn Teen Spirit yn fy mhen, cyn chwalu i mewn i’r stad o hunan-amheuaeth boreol arferol, a chofio mai mwy na thebyg ffordd o drio gwerthu rhywbeth i’r demographic oedd yr holl beth (hmmm gwrando ar Radio 4 ers blynyddoedd, sori Radio Cymru). Ond mae’n wir fod byd oedd yn gynhenid arafach mewn rhai ffyrdd wedi pasio gyda fy nghenhedlaeth, er for y rhieni yn dweud yr un peth yn ol yn 1992 etc. Heneiddio, eh?

Oherwydd diwylliant nostalgia diderfyn bondigrybwyll, yr hiraethu-am-amseroedd-a-fu trope sy’n ogleuo o ddarllen y Daily Mail neu gapeli, sgen i ddim fel arfer llawer i’w ddweud am edrych yn ôl yn ormodol – mae nostalgia wedi bod yn rhan o’n bywyd diwylliannol pop ni fel cenhedlaeth ers o leiaf diwedd y 70au (dwi’n rhoi bai dirywiad gorllewinol ar Happy Days a’r Fonz yn bersonol ). Roedden ni’n cael ei hudo gan ddelweddau kitchen sink y Smiths, brysur yn gwrando ar y Doors, Dylan neu hyd yn oed Bowie (oce, daeth Scary Monsters allan pan o’n i’n ddeg – dal yn ffefryn, ond albwm sy’n dechrau edrych nol mwy nag ymlaen). Acid Jazz, unrhyw un?

Er hyn i gyd, nath rhywbeth fy nharo i am y cyfweliad. Tydi siarad am eich ysfa am hen dechnoleg ddim yn angenrheidiol yn golygu fod pethau hŷn yn fwy ‘dilys’ rhywsut, er bod syniadau o ‘ddilysrwydd’ yn rhinweddau sy’n mynd i galon idiom y math o roc mae’r Foo Fighters yn ei werthu erioed. Er bod y tinc ‘anti-ddigidol’ yma’n rhywbeth dwi’n siŵr sydd wedi helpu Mr Grohl i gael ei sŵn yn ‘iawn’ , ar ddiwedd y dydd, gwerthu CDs (iep, dal yn boblogaidd am y tro – ond ai dim ond i bobl ein cenhedlaeth sydd yn cofio format analog fel LPs?)neu ar-lein yw’r nod.

Ond mae’n nodweddiadol o’n stad fodern hylifol: y miliwnydd o gerddor yn apelio at ryw syniad o ddilysrwydd cerddorol (dosbarth gweithiol hefyd?) trwy ‘hen’ dechnoleg a thechnegau, dim ond i werthu trwy’r dechnoleg ddigidol gyfredol. Hen dric mae Sting yn gwneud gyda’i liwt (ond baby boomer ydi o, be da chi’n disgwyl, jazzer yn smalio bod yn post-punk ac yn smalio chwara reggae – rili, be da chi’n disgwyl?), neu Neil Young (boomer arall) yn ei ddydd yn cwyno am CDs, cyn sylweddoli fod o’n gwerthu shit-loads ohonyn nhw. Mae pawb uchod (yn cynnwys yr un sy’n shafio ar ryw bwynt, dwi’n siŵr) yn cael eu hudo gan ryw syniad o hunaniaeth ‘go iawn’, yn seiliedig ar dechnoleg neu dechnegau sydd wedi pasio i mewn i amser. ‘Pasia’r gitâr ‘na i i gael chwarae Blowin’ in the wind UNWAITH ETO’ ‘Ti’n cofio pan oedden i’n arfer EBOSTIO?’. Ah, dwi’n edrych mlaen i’r great email revival of 2023.

Ond yn sicr mae ‘na nostalgia am hen dechnoleg o’n cwmpas ym mhobman. Fel arfer, sneb gwell na William Gibson (@GreatDismal) i son am hyn.

 

Hardwick, Y Fenni

 

gwenu yn yr hardwick

Ail waith i ni fod yma, tro cyntaf nathon ni fwynhau gyaint a prynu llyfr coginio rili defnyddiol. Mae’r lle wedi tyfu, gyda estyniad newydd, yn amlwg am ei fod mor boblogaidd – ystafelloedd ar gael nawr hefyd. Hyfryd, hyfryd unwaith eto. Mae Steven Terry wedi creu pub perffaith; un o’r ychydig lefydd dwi di bod iddo sy’n haeddu’r teitl o gastropub, label sy’n cael ei gamddefnyddio yn ofnadwy gan llwyth o lefydd sy’n codi prisiau gwirion am fwyd sydd wedi ei goginio’n wael, neu ddi-ddychymyg. Dwi’n siwr yn rhywle mae na rhyw hipster food critic wedi hen laru ar yr holl syniad, ond mae’r lle yma yn wirioneddol gweud y pethau syml yn dda iawn. Ges i selsig Old Spot fel y prif gwrs, oedd llawn blas. Mae’r sglodion wedi eu ffrio tair gwaith, ac yn enwog am hynny. Popeth yn ei le, blasus, a’r gwasanaeth yn effeithlon, heb fod yn rhy brysur o gwmpas y bwrdd. Gymrodd oriau i ddau ohonnom adael wedyn, mae na awyrgylch mor groesawgar, ac mae’r soffas lledr mor ddwfn

Eben Moglen – bach o arwr, rili

Newydd ddod ar draws hwn trwy erthygl ar ‘gyfrifaduro cwmwl’ (?) yn yr Observer, ac wedi dilyn i fyny tipyn o’r sgyrsia gan Eben Moglen, sy’n amddiffyn ac yn datblygu’r syniad o feddalwedd cod agored: http://bit.ly/hhXUZD. Un o fy hoff syniadau yw ei gymhariaeth o’r 20fed ganrif yn un sydd wedi ei danategu gan ddur, tra bod yr 21ain (hyd hyn…)yn un sydd wedi ei adeiladu ar feddalwedd, rhywbeth fedrwn ni ddim ei weld, ond sydd o’n cwmpas ac yn rheoli ein bywydau i raddau mwy nag ydym yn ymwybodol. ‘Primer’ da ar hanes cyfrifiaduro, peer-to-peer, Microsoft a.y.b.

Mae ei osgo a’i arddull fel pregethwr, ond mae hefyd yn codi pwyntiau dilys iawn am beth mae preifatrwydd yn ei olygu mewn byd gyda gymaint o wybodaeth yn cael rannu yn ddi-feddwl, a pa mor bwysig yw hi i ni feddwl am hyn yn ein bywydau ni’n hunain a thrwy fod yn wyliadwrus o’r sawl sydd yn erbyn rhyddid agored i bawb – fel arfer drwy roi diddordebau masnachol cyn popeth.