Nes i fwynhau’r gynhadledd #senedd2011 ychydig ddiwrnodau’n ôl, yn enwedig cyfraniad Andy Williamson o’r Gymdeithas Hansard. Yn sicr, roedd yna ymgais yma i geisio edrych ar dechnoleg, ymgyrchu a syniadau o ddemocratiaeth, a hynny ar ddiwrnod olaf ein Cynulliad presennol.
Er fod yr amcanion yn rhai da, a dwi’n siwr wnawn ni weld datblygu tipyn o’r syniadau o’r diwrnod, nes i fedddwl ychydig wedyn bod yn dal broblemau dwfn yn nhermau cysylltu ewyllys da blogwyr, gwleidyddion a phobl sy’n ymwneud a’r cyfryngau yn gyffredinol – a pawb arall yng Nghymru. Mae’r problemau yma’n rhai dwfn, strwythurol sydd efallai angen atebion dwfn, strwythurol, er enghraifft ymgais o ddifrif gan pwy bynnag sydd mewn llywodraeth y tro nesaf i sicrhau fod band eang go iawn ar gael i bawb yn y wlad, rhywbeth yn sicr mae Plaid yn son amdano. A fydd yna ddigon o arian yn cael ei roi i hyn yn gwestiwn mawr – oherwydd tydi strategaeth llywodraeth Llundain (quelle surprise…gadael o i’r farchnad…) ddim yn mynd i’n helpu neb yn y pendraw.
Ond hefyd, ges i’r teimlad fod yna elfen arall sydd ddim yn cael ei drafod lawer. Mae’r syniadau yma o ddinasyddiaeth gweithredol, sy’n rhedeg ar draws pob llywodraeth o bob lliw erbyn hyn, mewn ffordd yn profi pa mor ddwfn mae syniadau neo-rhyddfrydol wedi treiddio. Er yr holl son am agor allan democratiaeth a cael pobl i gyfrannu, ymgais sydd yma i wneud i bobl fod yn fwy gyfrifol am nhwy’i hunain yn y pendraw, cyflyrru mewn ffordd bio-gwleidyddol, annog trwy rhywdweithiau a syniadau o ‘gyfranogaeth’ eu bod yn rhan o ‘lywodraeth’. Ni yw’r llywodraeth a ni sy’n llywodraethu ein hunain. Wrth i’r stad yng Nghymru hefyd droi i fod yn un sy’n ceisio ‘llywio nid rhwyfo‘ , does dim dwywaith fod hi’n bwysig clywed fwy o leisiau a mwy o sgwrs genedlaethol am y ffordd ymlaen, ond os nad ydi’r rhywdeithiau sylfaenol yna h.y. peipiau band eang, er enghraifft, i bobl allu datblygu cyfryngau/ffyrdd o gyfathrebu newydd ymysg eu gilydd, fydd llywodraeth yn methu, ac unrhyw syniad o ‘ddinasyddiaeth gweithredol’ yn arafach i ddatblygu dwi’n amau.