Newyddion diddorol heddiw am etholiadau lleol Spaen, sydd wedi gweld twf ym mhwer y Partido Popular (aden dde) ar draul y PSOE – ond yng Ngwlad y Basg, mae’r parti newydd chwith cenedlaetholgar Bildu (‘Ymgynull’ fyddai’r trosiad?) wedi gwneud yn dda iawn. Mewn gwirionedd, casgliad o bartion yw Bildu, rhai ohonynt wedi cael eu gwahardd tan yn ddiweddar; mae llais y chwith abertzale yn cael ei glywed o’r diwedd ar ol blynyddoedd o gael ei wahardd gan Madrid. Hwn yw un o’r pethau mwyaf positif i ddod allan o benderfyniad ETA i roi arfau i lawr o’r diwedd. Mae hefyd yn awgrymu fod yr cefnogaeth oedd yna i ETA gynt wedi diflannu yn gyfan gwbwl, a bod y chwith sydd o blaid annibyniaeth yn y broses o uno.
Mae cadarnleoedd oedd gynt yn berchen i bartion y stad fel y PSO a’r PP (i raddau llai), nawr yn dod o dan y chwith o blaid annibyniaeth – dwi’n meddwl yn enwedig am Donostia, ble mae Odon Elorza (PSOE – ond yr aden fwy meddylgar efallai….)wedi bod mewn grym, ers y cyfnod oeddwn i yna’n y nawdegau (o 1991, i fod yn fanwl). Mewn llawer ffordd, mae o wedi bod yn ffigwr da i’r ddinas, a wedi gweld y lle’n datblygu ac yn moderneiddio, ac hefyd wedi bod yn ffigwr unol mewn adegau anodd iawn. Ddim yn siwr os fydd o’n gallu cario mlaen.
Erthygl yn y Scotsman yn esbonio’r newid, a beth mae hyn yn ei olgu o bosib i Madrid – mae’r tebygrwydd i sefyllfa’r Alban a Llundain yn un diddorol.