Monthly Archives: June 2011

ffrynt ddiwyllianol y basgwyr ac eisteddfod llangollen

Newydd fod yn gweithio gyda chwmni teledu ar gyfweliadau o Wlad y Basg, rhai gyda grŵp dawns, Gero Axular , fydd yn dod i eisteddfod Llangollen wythnos nesaf, dod a thipyn o atgofion  personol am y lle ond hefyd sylweddoli fod yna stori dda arall i’w adrodd am gysylltiadau’r wyl gydag Euskal Herria.

Dwi’n cofio siarad gyda phobl hyn pan oeddwn i’n byw yn Donostia / San Sebastián, a chanfod eu bod nhw’n gwybod am eisteddfod Llangollen, a mwy na hynny, yn cysidro’r wyl yn un bwysig dros y blynyddoedd. Ond i fod yn onest, hyd i fi drio cyfieithu ychydig o gyfweliadau i wythnos diwethaf a gwneud bach o ymchwil, nes i’m sylweddoli faint . Mae’r rhestr o gorau a grwpiau dawns sydd wedi ennill dros y blynyddoedd yn ddigon parchus o ran ei faint, gyda rhai o’r grwpiau yma dal yn bodoli, a gyda phresenoldeb neu hanes ar gael ar y we:

Coro Easo , San Sebastián (côr dynion, 1949)

Coro Maitea, San Sebastián (côr merched, 1949),

Agrupacion Coral, Elizondo ( parti canu, 1952),

Agrupacion Coral, Elizondo ( côr cymysg, 1952)

Grupo de Danzas Vascas Goizaldi, (parti dawnsio, 1956)

Andra Mari, Galdacano (parti dawnsio, 1968)

Eskola, San Sebastián (parti dawnsio, 1991)

Kresala Euskal Dantza Taldea, San Sebastian (parti dawnsio, 1997)

 

 

Ond dwi’n meddwl fod y pwysigrwydd yn dod o’r rhai wnaeth ennill yn y 40au, 50au a 60au, pan oedd gorthrwm Franco o ddiwylliant Basgaidd ar ei anterth. Byddai’r ychydig oedd yn cael mentro tu allan i’r wlad yn y cyfnod yn mynd a neges am eu diwylliant oedd yn un yn llythrennol tu hwnt i afael Franco yn ystod wythnos yr eisteddfod. Roedd y cof yma dal yn fyw ymysg pobl Donostia yn enwedig.

Daeth twf cenedlaetholdeb yn y 60au a’r 70au cynnar o’r ffrynt ddiwylliannol (fel strategaeth arall, hynny yw llaw yn llaw a strategaeth wleidyddol y PNV ac eraill) cerflunwyr rhyngwladol fel Chillida ac Oteiza , neu trwy unigolion oedd yn canu caneuon yn yr iaith: Mikel Laboa , Benito Lertxundi ac eraill, er enghraifft yn Ez Dok Amairu- yn hynny o beth, debyg hefyd i dwf cenedlaetholdeb y canwr-awdur yma yng Nghymru (Dafydd Iwan, Meic Stevens et al).

Felly mae’n bwysig hefyd meddwl am y twf a ddigwyddodd mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig dawns Basgaidd yn y cyfnod, a sut roedd hyn yn plethu i mewn i weithgareddau o ddiwylliannau tu oedd o bosib tu allan i’r wladwriaeth arferol. Dwi’n amau hefyd fod hyn yn cael ei gysidro’n bwysig fel ymgais i geisio dod ac Ewrop yn agosach ar ôl y rhyfel.

 

 

Cynhadledd Cyfrwng

Ychydig o ddiddordeb yng nghyfarfod ddoe yn yr Atrium, sef ail ddiwrnod cynhadledd Cyfrwng . Yn cael y teimlad cryf fod llawer yno yn ceisio sicrhau fod pethau’n aros yn union run fath ym ‘myd darlledu’ Cymru, neu mor agos â phosib i’r status quo, hynny yw model Alice-in-Wonderland o farchnad sydd ddim yn farchnad, busnesau sy’n byw ar fraster arian cyhoeddus ond yn gwrthod meddwl yn ehangach na model busnes/corfforaethol rhithdybus , ac yn gwrthod cydnabod mai bod yn rhan o strategaeth iaith yw’r holl bwynt. Mae’r paraphenalia a’r glitz o ‘media’, heb son am y camgymeriad sylfaenol o greu sustem sy’n rhoi gormod o bŵer i ychydig o bobl, wedi cymryd drosodd ers talwm, ac yn dal yn fyw er fod Jeremy Hunt & co wedi newid pethau.

Y ffaith ydi, mae pawb yn cerdded o gwmpas yn meddwl mai busnes go iawn yw hyn (ac wedi cael eu perswadio i wneud hyn gan eraill dros y blynyddoedd), pan mae’n glir na fyddai’r iaith yn ffynnu mewn marchnad gwbl rydd yng Nghymru, a bod angen lot fawr o arian cyhoeddus i gefnogi’r iaith dal i fod.  Ergo, byddai llawer o’r cwmnïau ‘mawr’, hyd yn oed y rhai sydd wedi rhestru ar y farchnad, ddim yn gallu bodoli – felly pam cael nhw o gwbl. Roedd y ddadl superindie wedi marw cyn i S4C ddechrau’r strategaeth.  Sathrwyd ar ddadl gref Elain Price yn un o’r sesiynau yn syth gan sawl un ‘pwysig’ yn y gynulleidfa. Eto, well gan bobl wneud yn siŵr fod pŵer ac arian ddim ond yn nwylo rhai, ac nid llawer.

Dwi’m yn meddwl aeth neb i fyny mast yn y 70au gan feddwl bydda nhw creu sustem mor annemocrataidd, ac yn canolbwyntio pŵer yn nwylo cyn lleied. Mae creu cyfleoedd i ychydig o gwmnïau yn enw ‘datblygiad economaidd’ wedi creu’r sefyllfa bresennol i raddau, yn ogystal â’r broses fwriadol o anwybyddu’r  ffaith syml fod datganoli wedi newid popeth ers tro. Rhaid cael mwy o leisiau yn hyn i gyd, a dosbarthu arian prin sydd yna i helpu’r iaith mewn ffordd well, nid ar pipe-dreams ffug-gyfalafol ychydig o ‘bobl busnes’ a haen top y darlledwyr (tra bod gweithwyr yn aml yn cael eu trin fel baw, er bod yna gryn hunan-longyfarch am ‘strategaethau hyfforddiant’, gorfoleddu am lwyddiannau a fu a.y.b. mewn cynadleddau o’r fath fel arfer).

O leiaf roedd hi’n bosib cael ambell i sgwrs o amgylch hyn e.e. sesiwn Hac Iaith bach a chlywed ambell i bapur diddorol. Diddorol hefyd siarad gyda pobl o’r tu allan, efallai’n fwy academaidd, oedd yn arsylwi hyn i gyd. Y peth digalon yw’r teimlad fod popeth mor fach, fod pawb yn adnabod eu gilydd a pawb ofn pechu, ac mai dyna yw canlyniad diffyg ein uchelgais a hyder, hyd yn oed mewn fforwm academaidd agored.