Cyfarfod/cynhadledd diddorol ddoe, cwpwl o oriau o drafod o gwmpas y Deddf Uno sydd wedi bod yn Sain Ffagan am ychydig o amser (…ond does neb wedi bod yn cymryd llawer o sylw, yn anffodus…?), er fod y cyfarfod ei hun yn y Reardon Smith yn Amgueddfa’r dre.
Panel yn cynnwys Dafydd El (DET), Mark Drakeford (MD), Suzie Davies (SD) a Jenny Randerson (JR), gyda Vaughan Hughes yn cadeirio. Lot o’r drafodaeth wedi digwydd ar Twitter hefyd, o dan #deddfuno – bywiog iawn ar adegau, gyda tipyn o’r tu allan yn ymuno.
Rhai o’r prif bwyntiau, fel ddaethon nhw i fyny:
‘ 1997 an act of pragmatism, between Thatcherism and Labour socialism’ (SD)
‘I gael Deddfau Uno yn ei wir ystyr, roedd rhaid cael dau barti dydd eisiau hynny- nid oedd y fath beth yn bod ar y pryd’ (DET)
‘Constitutional debate for Wales not over, a body of distinct Welsh law is needed to progress’ (JR)
‘Being able to legislate will make difference because it signifies a change of attitude & self confidence’ (MD)
‘Wales not shaped by legislation, but by events’ (MD)
‘Sovereignty is a fluid concept – what about Greece or Ireland today? It’s important to embrace that ambiguity’ (MD)
‘Hunan-benderfyniaeth yn hawl i bobl Cymru unrhyw bryd’ (DET)
‘Deddfwriaeth iaith 1993 wedi lunio’n well na’r deddfwriaeth iaith diweddar’ (DET)
‘Identity and sovereignty are linked; the new settlement will strengthen this’ (MD)
‘Scotland retained legal system but lost a language…..’ (JR)
Sgwrs ddiddorol wedyn hefyd gyda’r hanesydd Nia Powell:
‘Nath y Ddeddf Uno uno Cymru’n fewnol am y tro cyntaf, creu hunaniaeth fwy pendant’
‘Mae’r ddeddf yn rhoi pwysigrwydd i ddwyieithrwydd- daw grym wrth greu biwrocrasi dwyieithog, model imperialaidd, roedd lefel dwyieithrwydd yn uchel cyn 1536 mae’n rhaid’
‘Byddai modd dadlau fod y Ddeddf Uno wedi achub yr iaith mewn rhai ffyrdd…’ (!)
‘OND y gwrth ddadl hefyd, fod y drefn o dan y Ddeddf wedi atal Cymru rhag ddatblygu mewn ffordd arall, grym yn nwylo’r biwrocrasi lleol’
