Lot fawr wedi ei sgwennu dros y dyddiau diwethaf, a rhain yw rhai o’r darnau gorau dwi’n meddwl, sy’n rhoi seiliau i ddatblygu unrhyw ddamcaniaeth call. I fi, pan mae cymdeithas ddim ond yn gallu portreadu tlodi o gwbwl trwy fformat fel Secret Millionaire neu How the Other Half Live , dwy raglen sydd er gyda’r rhinwedd o ddangos tlodi o gwbwl, ond yn diwedd yn portreadu tlodi fel stori/bai yr unigolyn neu teulu unigol fel arfer, mae rhywbeth o’i le. Ond mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd. Mae yna rhai sy’n codi pwyntiau academaidd am hyn, ond dim llawer.
Mae narrative y dde o gyfrifoldeb yr unigolyn, y ‘tlawd teilwng’ i’w glywed yn glir yn barod, ac mae gen i ofn mai hawdd fydd gwthio pobl i gyfeiriad y Dde awdurdodaidd yn hyn i gyd h.y. mwy o blismyn nid mwy o weithwyr gyda’r ifanc a.y.b. Hefyd, bydd y papurau newydd aden dde yn barod iawn i helpu (ac i’n helpu ni i anghofio am sgandals diweddar).
Fedrwn ni ddibynnu ar y chwith/Llafur yn y wlad yma i fethu gwneud stori gall o hyn i gyd, a cynnig unrhyw narrative gwell – mae nhw wedi methu dros y degawd diwethaf, mae’n amlwg, ac yn foesol, mae anodd gweld lle bydd eu narrative nhw’n dod, gan eu bod wedi rhoi cyn lleied i newid sefyllfa strwythurol pobl tlawd, wedi bod yn barod iawn i ddilyn a gweithredu fel y dde awdurdodaidd a.y.b. Mae rhai o leiaf yn dechrau sylweddoli pwysigrwydd hyn i gyd, ond mae’n rhy hwyr mewn ffordd – er i ni weld Murdoch yn ei chael hi dros y mis diwethaf, mae’r dde yn arglwyddiaethau yn y rhan fwyaf o’n trafodaethau (discourse yn y Gymraeg?) ers cyhyd, ac ym mhobman (ein gwir etifeddiaeth o Llafur Newydd, yma’n Nghymru hefyd).
Ddim yn trio cyfiawnhau unrhyw weithredoedd brwnt a chas dros y dyddiau diwethaf, ond fel nath rhywun Tweetio,’Rioting pillocks cause £100 million damage in 4 days. Speculating pillocks cause £5 trillion damage in 3 days’, Os da ni am ddechrau son am unrhyw ‘ofod’ moesol (a faint o hynny da ni mynd i glywed gan y gwleidyddion, newyddiadurwyr ac eraill dros y dyddia nesaf? Rhieni sy’n ei chael hi ar y funud…), mae na ofod go fawr ym moesoldeb pob haen o’n cymdeithas, mae gen i ofn.
Ta waeth, y rhai gorau hyd hyn:
Gwahaniaeth rhwng cyfoethog a thlawd ym Mhrydain, Reuters
Mary Riddell, Telegraph – yma ac hefyd yma
Moronwatch – na, nid colofn am Piers Morgan, ond cyd destun hanesyddol da i’r reiat, cymdeithas ar ol 9/11 a.y.b.
Camila Batmanghelidjh yn yr Independent
Jon Henley, Guardian, ar y defnydd o iaith dros y dyddiau diwethaf
Fideo, 10 diwrnod yn ol, ar y Guardian site am cau clybiau i’r ifanc yn Haringey
Krishnan Guru-Murphy, gurublog, Channel 4
Peter Oborne, Telegraph - erthygl da am y ‘gofod moesol’ trwy gymdeithas gyfan
Mwy i ddod, ychwanegu i’r rhestr dros y dyddia nesaf.
DIWEDDARIAD: erthyglau/ymchwil y Guardian, Rhagfyr 2011