Monthly Archives: September 2011

gwyliau yn y gorllewin

Wedi cael pythefnos yn carafanio, am y tro cyntaf mwy neu lai, a gwario’r rhan fwyaf yn gwylltio pobl ar hyd yr A487. Wedi gwario amser yng Nghriccieth, Porthmadog, wedyn Aber ac i lawr i Ty Ddewi. Ychydig o luniau ar gael yma.

Rhai o’r llefydd diddorol fuon ni yn cynnwys Gerddi Brondanw ar bnawn gwlyb, ar ôl bod i fyny i stiwdios/caffi celf braf iawn yng Nghroesor (a peint sydyn wedyn yn Y Ring, Llanfrothen).  Ar y tren bach i Ffestiniog hefyd, wrth gwrs. Tywydd ddim yn anhygoel, digon gwyntog yn y garafan. Yr ail wythnos, i lawr i Fae Caerfai, jest tu allan i Ty Ddewi, hyfryd iawn. Arddangosfa diddorol o stwff Graham Sutherland ac eraill yn Oriel y Parc, ymweliad arall i’r Sloop ac ymlacio’n gyffredinol. Ar y ffordd nôl, ymweld a’r Canolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, rhywle diddorol, llawn ysbrydoliaeth – a dipyn mwy o Gymraeg nag oeddem yn ei ddisgwyl!