Diwrnod ar y polling booths ddoe, ond siom er i ni wneud yn rhyfeddol diolch i waith caled gan y tim lleol….Nes i sylwi fod yna lawer o ddynion yn eu 60au yn rantio am rhoi un i Lundain – ddim sylweddoli mai etholiadau lleol oedd rhain, felly roedd Llafur wedi gwneud job dda ar hynny. Tipyn o beth fyswn i’n galw’n ‘indignant striders’; gwneud display i ddangos pa mor flin oeddent cyn mynd i fewn i bleidleiso, yn enwedig ar ol gweld rosette Plaid. O siarad gyda ambell un arall yn lleol, doedd y stance gan Leanne ar y cwin ddim wedi mynd i lawr yn dda chwaith, gyda’r run contingent. Eto, trap effeithiol gan Llafur o bosib.
Roedd y cyfri wedyn yn y Star yn agos iawn, wrth i ni wneud yn siwr fod popeth mor deg a phosib. Yr argraff o lot o ymgeiswyr Llafur oedd o ‘gum chewing fly-by-night chancers’ (not…bitter…honest…), ddim rili yn edrych fel pobl lleol o gwbl. Hyn ddim mor wir am Grangetown efallai, er mae hollol syndod bod un o’r ymgeiswyr oedd yn rhan o giwed Goodway wedi cael nol i fewn. Gwaed newydd i’r peiriant di-feddwl. Pob lwc dros y blynyddoedd i ddod.