Dwi edi bod yn teimlo’n eitha trist am hyn, mae’r shuttle wedi bod yng nghefndir bywyd rhywun ers pan oeddwn i tua 9 mlwydd oed. Seryddiaeth ac aeronautics oedd fy mheth i pan yn hogyn bach, hollol gutted pan ddwedson nhw mod i’n lliwddall a felly byswn i byth yn cael bod yn beilot, heb son am astronaut….
Space Shuttle Atlantis yn glanio am y tro olaf
Hanes technegol eitha trylwyr ar gael o’r llefydd arferol yn cynnwys NASA. Nes i sgwennu llythyr i NASA pan oeddwn i tua 10, aerogramme ar bapur arbennig, a sawl mis wedyn ges i parsel yn ol O AMERICA gyda lluniau o’r test flight cyntaf gan Columbia yn 1981, a pac addysgiadol. Nes i ecseitio’n lan.
Dros y blynyddoedd wedyn, ac fel oedd rhywun yn darganod pethau eraill mewn bywyd, roedd dal rhywbeth arbennig am glywed fod y shuttle wedi cyflawni pethau, yn enwedig Hubble. Gyda trychineb y Challenger, a’r Comisiwn Rogers ddaeth wedyn, ddois i ar draws Richard Feynman am y tro cyntaf hefyd, dwi’n cofio ei esboniad i’r wasg o beth oedd wedi methu yn y Challenger, yn glir- roedd o’n ffigwr mor charismatic, diddorol. Daeth na raglen Horizon allan yn y 90au oedd yn dangos y cyfan, werth ei wylio.
Ond mewn ffordd, mae’r holl ffordd o edrych ar beth da ni’n ei wneud yn y gofod wedi newid gymaint o’r 70au, pan o’n i’n blentyn. Digwydd bod daeth Bladerunner allan yn 1981 hefyd wrth gwrs, efallai fel ateb i’r genre opera-gofodaidd oedd wedi ysbrydoli ni fel plant ifanc, sef Star Wars. Aeth Bladerunner a ni ddyfodol arall, lle roedd y mewnol a’r athronyddol yn bwysicach. Does dim voice over yn Star Wars. Roedd Bladerunner hefyd yn adlewyrchiad efallai o syrffed pobl gyda dadleuon ideolegol da/drwg, comiwynddiaeth/cyfalafiaeth, dwyrain/gorllewin yr 20fed ganrif. Roedd y Space Shuttle, gymaint a’r Saturn series gynt, yn arfau yn y dadleuon yna, ac er nad oes posib dadlau fod yna gymaint wedi gyflawni ym meysydd peirianeg, cyfathrebu, mapio a.y.b. mae technoleg wedi troi mwy at y bychan, y micro, y sub-atomic llawer mwy erbyn hyn.
Ond dwi dal i edrych i fyny a mynd ‘Waw!’ o bryd i’w gilydd, fel oeddwn i’n 7 mlwydd oed. Pwysig gwneud dwi’n meddwl.
Erthygl diddorol yn yr Economist