euskal herrian bake? efallai, ond….

Falch o weld fod yna ymdrech i symud ymlaen yng Ngwlad y Basg gyda’r cyhoeddiad wythnos ddiwethaf,  ar ôl y cynhadledd yn Donostia. Cyfraniad diddorol gan Gerry Adams ar gael, yn dangos y linc sydd wedi bod gyda elfennau mwy blaengar yr eglwys Gatholig. Hefyd, mae yna dipyn o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir, dros amser, gan y cyfreithiwr o Dde Affrica ( a hen law bellach ar brosesau heddwch…), Brian Currin.

Mae sylwadau Currin hefyd ar y sefyllfa ddiweddar (weddol hurt) fod y llysoedd yn Madrid wedi rhoi Arnaldo Otegi yn y carchar am 10 mlynedd, yn llygad ei le, ac i fi yn pwyntio at y problemau sydd i ddod. Mae problemau Gwlad y Basg yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio gan y PP a’r PSOE i geisio ennill pleidleisiau. Handi iawn fod y broses yma yn digwydd jest cyn etholiadau, a pan yn byw yna, dwi’n cofio roedd hi’n llawer haws i bob gwleidydd yn Madrid son am ETA  na sut i gael gwared â ddiweithdra cronig ymysg pobl ifanc, problem ers degawdau. Roedd ETA yn gwneud pethau mor lletchwith yn erbyn diddordebau’r Basgwyr ar brydiau yn y cyfnod fel fod pobl wedi dechrau son mai lluoedd o’r stad Sbaenaidd ei hun oedd tu cefn iddo.

Pwynt arall yw fod yna doublespeak anhygoel yn digwydd trwy’r adeg gan wleidyddion Sbaen; mae camddefnydd y gair democracia , neu gor-ddefnyddio’r gair ar bob achlysur (yn cynnwys Zapatero yn datgan yn syth mai buddugoliaeth i ‘democracia’ oedd y datganiad diweddaraf), yn pwyntio at euogrwydd amlwg post-Franco. Mae yna elfennau hollol anemocratidd dal i fod yn y wlad, yn enwedig ar y dde. Er enghraifft, bu ymgais fwriadol yn ddiweddar gan hanesydd enwog or dde i alw Franco yn ffigwr awdurdodaidd nid totailitaraidd yng ngwyddoniadur swyddogol Sbaen.Enghraifft bach, ond nodweddiadol o’r math o bobl sydd dal yn mewn grym yn yr establishment yn Sbaen.

Byddai’n bosib dadlau fod strategaeth o wahardd unrhwy barti gwleidyddol Sinn Fein-aidd o’r chwith abertzale , gan gynnwys Otegi, wedi helpu dod ag ETA i’r canlyniad presennol. Ond tydi’r egwyddor o wahardd 15-20% o’r boblogaeth rhag bledleisio dros bwy mae nhw eisiau ddim yn iawn yn fy marn i – ac yn amlwg yn annemocrataidd. Gellir dadlau yn hollol rhesymol fod gweithredoedd ETA yn  annemocrataidd, ond pan mae stad yn gwahardd unrhyw lais arall (yn cynnwys papurau newydd Egunkaria ac Egin gynt), mae rhywbeth o’i le. Mae’r hawl i hunan-benderfyniaeth yn dechrau a gorffen gyda’r gallu i gael etholiadau sy’n agored i bawb, beth bynnag yw eu barn. Un o brofiadau nath fy nychryn i fwyaf oedd gweld Egin yn cau; 200,000 o bobl yn protestio ar y stryd yn Donosti am hyn, dim gair ar y teledu na phapurau newydd eraill.

Y cwestiwn arall yw’r carcharorion. Nhw sydd mewn ffordd wedi hwb i’r holl broses trwy ddatgan mis diwethaf eu bod yn cytuno a’r Acuerdo de Gernika, fod angen dilyn llwybr heddychlon i ateb y sefyllfa. Mae’r ffordd fydd y llywodraeth nesaf ar ôl etholiadau’r 20fed o Dachwedd yn eu trin (mwy na thebyg o’r dde) yn dyngedfennol. Does dim ond angen cofio fod unrhyw un sy’n cael ei gyhuddo o wneud unrhwy beth yn gysylltiedig ag ETA yn cael eu dal yn y carchar am 13 diwrnod (fel arfer gan y Guardia Civil) HEB gael gysylltu â neb, yn cynnwys cyfreithiwr, a bod cannoedd o’r carcharorion yn cael eu alltudo i garchardai ymhell o Wlad y Basg.

Mae na lluoedd clir yn erbyn unrhyw fath o ddatrys y broblem, heblaw am sathru ar hawliau Basgwyr yn gyffredinol e.e. yr AVT, ond wedyn ceir ambell i lygedyn o obaith trwy ddarllen erthygl diweddar oedd yn dod a carcharor a mab rhywun gath ei ladd gan ETA at eu gilydd (fersiwn tebygyn y Guardian hefyd). Gobeithio bod hyn hefyd yn cymryd ei le yn yr ymgyrch yn weddill Sbaen i gofio sut mae cyfnod Franco (a’r etifeddiaeth o’r cyfnod) yn cael ei gofio. Mae’n amhosib dallt y sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn iawn heb edrych ar hanes Sbaen yn yr 20fed ganrif yn ei gyfanrwydd, sy’n golygu fod yna llawer mwy o ddioddefwyr wedi bod na’r rhai farwodd trwy weithredoedd ETA.

Dwi hefyd o’r farn byddai hi wedi bod yn bosib dod a’r derfysgaeth i ben blynyddoedd yng nghynt drwy beidio camdrin y carcharorion a pheidio camdrin hawliau democrataidd, ond mae hi wedi bod yn fwy cyfleus i gyfundrefn yn Sbaen (ac ambell i elfen yng Ngwlad y Basg) i anwybyddu hyn yn llwyr.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>