Tag Archives: Donostia

euskal herrian bake? efallai, ond….

Falch o weld fod yna ymdrech i symud ymlaen yng Ngwlad y Basg gyda’r cyhoeddiad wythnos ddiwethaf,  ar ôl y cynhadledd yn Donostia. Cyfraniad diddorol gan Gerry Adams ar gael, yn dangos y linc sydd wedi bod gyda elfennau mwy blaengar yr eglwys Gatholig. Hefyd, mae yna dipyn o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir, dros amser, gan y cyfreithiwr o Dde Affrica ( a hen law bellach ar brosesau heddwch…), Brian Currin.

Mae sylwadau Currin hefyd ar y sefyllfa ddiweddar (weddol hurt) fod y llysoedd yn Madrid wedi rhoi Arnaldo Otegi yn y carchar am 10 mlynedd, yn llygad ei le, ac i fi yn pwyntio at y problemau sydd i ddod. Mae problemau Gwlad y Basg yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio gan y PP a’r PSOE i geisio ennill pleidleisiau. Handi iawn fod y broses yma yn digwydd jest cyn etholiadau, a pan yn byw yna, dwi’n cofio roedd hi’n llawer haws i bob gwleidydd yn Madrid son am ETA  na sut i gael gwared â ddiweithdra cronig ymysg pobl ifanc, problem ers degawdau. Roedd ETA yn gwneud pethau mor lletchwith yn erbyn diddordebau’r Basgwyr ar brydiau yn y cyfnod fel fod pobl wedi dechrau son mai lluoedd o’r stad Sbaenaidd ei hun oedd tu cefn iddo.

Pwynt arall yw fod yna doublespeak anhygoel yn digwydd trwy’r adeg gan wleidyddion Sbaen; mae camddefnydd y gair democracia , neu gor-ddefnyddio’r gair ar bob achlysur (yn cynnwys Zapatero yn datgan yn syth mai buddugoliaeth i ‘democracia’ oedd y datganiad diweddaraf), yn pwyntio at euogrwydd amlwg post-Franco. Mae yna elfennau hollol anemocratidd dal i fod yn y wlad, yn enwedig ar y dde. Er enghraifft, bu ymgais fwriadol yn ddiweddar gan hanesydd enwog or dde i alw Franco yn ffigwr awdurdodaidd nid totailitaraidd yng ngwyddoniadur swyddogol Sbaen.Enghraifft bach, ond nodweddiadol o’r math o bobl sydd dal yn mewn grym yn yr establishment yn Sbaen.

Byddai’n bosib dadlau fod strategaeth o wahardd unrhwy barti gwleidyddol Sinn Fein-aidd o’r chwith abertzale , gan gynnwys Otegi, wedi helpu dod ag ETA i’r canlyniad presennol. Ond tydi’r egwyddor o wahardd 15-20% o’r boblogaeth rhag bledleisio dros bwy mae nhw eisiau ddim yn iawn yn fy marn i – ac yn amlwg yn annemocrataidd. Gellir dadlau yn hollol rhesymol fod gweithredoedd ETA yn  annemocrataidd, ond pan mae stad yn gwahardd unrhyw lais arall (yn cynnwys papurau newydd Egunkaria ac Egin gynt), mae rhywbeth o’i le. Mae’r hawl i hunan-benderfyniaeth yn dechrau a gorffen gyda’r gallu i gael etholiadau sy’n agored i bawb, beth bynnag yw eu barn. Un o brofiadau nath fy nychryn i fwyaf oedd gweld Egin yn cau; 200,000 o bobl yn protestio ar y stryd yn Donosti am hyn, dim gair ar y teledu na phapurau newydd eraill.

Y cwestiwn arall yw’r carcharorion. Nhw sydd mewn ffordd wedi hwb i’r holl broses trwy ddatgan mis diwethaf eu bod yn cytuno a’r Acuerdo de Gernika, fod angen dilyn llwybr heddychlon i ateb y sefyllfa. Mae’r ffordd fydd y llywodraeth nesaf ar ôl etholiadau’r 20fed o Dachwedd yn eu trin (mwy na thebyg o’r dde) yn dyngedfennol. Does dim ond angen cofio fod unrhyw un sy’n cael ei gyhuddo o wneud unrhwy beth yn gysylltiedig ag ETA yn cael eu dal yn y carchar am 13 diwrnod (fel arfer gan y Guardia Civil) HEB gael gysylltu â neb, yn cynnwys cyfreithiwr, a bod cannoedd o’r carcharorion yn cael eu alltudo i garchardai ymhell o Wlad y Basg.

Mae na lluoedd clir yn erbyn unrhyw fath o ddatrys y broblem, heblaw am sathru ar hawliau Basgwyr yn gyffredinol e.e. yr AVT, ond wedyn ceir ambell i lygedyn o obaith trwy ddarllen erthygl diweddar oedd yn dod a carcharor a mab rhywun gath ei ladd gan ETA at eu gilydd (fersiwn tebygyn y Guardian hefyd). Gobeithio bod hyn hefyd yn cymryd ei le yn yr ymgyrch yn weddill Sbaen i gofio sut mae cyfnod Franco (a’r etifeddiaeth o’r cyfnod) yn cael ei gofio. Mae’n amhosib dallt y sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn iawn heb edrych ar hanes Sbaen yn yr 20fed ganrif yn ei gyfanrwydd, sy’n golygu fod yna llawer mwy o ddioddefwyr wedi bod na’r rhai farwodd trwy weithredoedd ETA.

Dwi hefyd o’r farn byddai hi wedi bod yn bosib dod a’r derfysgaeth i ben blynyddoedd yng nghynt drwy beidio camdrin y carcharorion a pheidio camdrin hawliau democrataidd, ond mae hi wedi bod yn fwy cyfleus i gyfundrefn yn Sbaen (ac ambell i elfen yng Ngwlad y Basg) i anwybyddu hyn yn llwyr.

 

ffrynt ddiwyllianol y basgwyr ac eisteddfod llangollen

Newydd fod yn gweithio gyda chwmni teledu ar gyfweliadau o Wlad y Basg, rhai gyda grŵp dawns, Gero Axular , fydd yn dod i eisteddfod Llangollen wythnos nesaf, dod a thipyn o atgofion  personol am y lle ond hefyd sylweddoli fod yna stori dda arall i’w adrodd am gysylltiadau’r wyl gydag Euskal Herria.

Dwi’n cofio siarad gyda phobl hyn pan oeddwn i’n byw yn Donostia / San Sebastián, a chanfod eu bod nhw’n gwybod am eisteddfod Llangollen, a mwy na hynny, yn cysidro’r wyl yn un bwysig dros y blynyddoedd. Ond i fod yn onest, hyd i fi drio cyfieithu ychydig o gyfweliadau i wythnos diwethaf a gwneud bach o ymchwil, nes i’m sylweddoli faint . Mae’r rhestr o gorau a grwpiau dawns sydd wedi ennill dros y blynyddoedd yn ddigon parchus o ran ei faint, gyda rhai o’r grwpiau yma dal yn bodoli, a gyda phresenoldeb neu hanes ar gael ar y we:

Coro Easo , San Sebastián (côr dynion, 1949)

Coro Maitea, San Sebastián (côr merched, 1949),

Agrupacion Coral, Elizondo ( parti canu, 1952),

Agrupacion Coral, Elizondo ( côr cymysg, 1952)

Grupo de Danzas Vascas Goizaldi, (parti dawnsio, 1956)

Andra Mari, Galdacano (parti dawnsio, 1968)

Eskola, San Sebastián (parti dawnsio, 1991)

Kresala Euskal Dantza Taldea, San Sebastian (parti dawnsio, 1997)

 

 

Ond dwi’n meddwl fod y pwysigrwydd yn dod o’r rhai wnaeth ennill yn y 40au, 50au a 60au, pan oedd gorthrwm Franco o ddiwylliant Basgaidd ar ei anterth. Byddai’r ychydig oedd yn cael mentro tu allan i’r wlad yn y cyfnod yn mynd a neges am eu diwylliant oedd yn un yn llythrennol tu hwnt i afael Franco yn ystod wythnos yr eisteddfod. Roedd y cof yma dal yn fyw ymysg pobl Donostia yn enwedig.

Daeth twf cenedlaetholdeb yn y 60au a’r 70au cynnar o’r ffrynt ddiwylliannol (fel strategaeth arall, hynny yw llaw yn llaw a strategaeth wleidyddol y PNV ac eraill) cerflunwyr rhyngwladol fel Chillida ac Oteiza , neu trwy unigolion oedd yn canu caneuon yn yr iaith: Mikel Laboa , Benito Lertxundi ac eraill, er enghraifft yn Ez Dok Amairu- yn hynny o beth, debyg hefyd i dwf cenedlaetholdeb y canwr-awdur yma yng Nghymru (Dafydd Iwan, Meic Stevens et al).

Felly mae’n bwysig hefyd meddwl am y twf a ddigwyddodd mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig dawns Basgaidd yn y cyfnod, a sut roedd hyn yn plethu i mewn i weithgareddau o ddiwylliannau tu oedd o bosib tu allan i’r wladwriaeth arferol. Dwi’n amau hefyd fod hyn yn cael ei gysidro’n bwysig fel ymgais i geisio dod ac Ewrop yn agosach ar ôl y rhyfel.

 

 

Restaurante Arzak, Donostia

Bwyd y Noson, ArzakUn o uchelbwyntiau ein gwyliau, heb os. Lwcus iawn mai hwn oedd fy ail waith yma, wedi bod yma gynt yn ffilmio yn ôl yn 2004; nes i ffilmio Elena, merch Arzak ac Arzak ei hun allan yn y wlad yn hau ffa gyda plant – ffliwc, bach o scoop i Dudley ar y pryd. ges i weld y gegin arbrofol ar y pryd hefyd, a dyma’r cogydd ifanc yna’n son am rhyw sais gyda sbectols oedd wedi bod yn aros yna gyda’i deulu am sawl mis, yn dod i’r gegin yn ddyddiol. Wedi gwario sawl diwrnod yn mwynhau ac ail gysylltu gyda ffrindiau yn Donosti, lwcus iawn hefyd fod un o’r ffrindiau yna yn ffrind i’r prif cogydd yma ar y noson…

17 cwrs, gyda 4 gwin gwahanol; popeth yn dod a blas neu ffurf annisgwyl i’r ceg a’r synhwyrau. Roedd yna griw o cogyddion eraill tu cefn i ni yn mynd trwy’r menu ac wrth eu boddau.

Arzak1