Tag Archives: hyperlocal

goiena, arrosa eta la polla

Erthygl diddorol yn Golwg 360 , ac mae’n werth edrych ar  papur Txema Ramirez ar ‘The Basque Country as Alternative Media Laboratory‘ . Roedd yr 80au yng Ngwlad y Basg yn gyfnod gwyllt, cyffrous a thrist mewn sawl fordd. Roedd sawl theori am pam fod yna gymaint o heroin o gwmpas, er enghraifft, fel nath y newyddiadurwr dewr o Egin Pepe Rei, nath colli ei fab i’r epidemig, geisio ei brofi. Mewn cyfnod o ddirwasgiad a diweithdra (hmmmm, beth sy’n newid), roedd genedigaeth Rock Radikal Vasco yn rhywbeth wnaeth rhoi’r trac sain i bob gaztetxe (yn llythrennol, ‘Ty’r ifanc’) ac okupa (sgwat – roedd cannoedd ar draws Gwlad y Basg yn y cyfnod), yn enwedig yr anfarwol La Polla Records, a bandiau eraill fel Eskorbuto  a Kortatu, cyn bandiau mwy adnabyddus fel Negu Gorriak yn y 90au (Rhys Mwyn a’r Anrhefn o’r un cyfnod, a gyda ambell i stori). Tra roeddwn i’n byw yna yn y 90au, roedd llawer o’r cerddoriaeth a’r bandiau yma dal o gwmpas, yn rhannol oherwydd eu bod yn rhan o’r bloc radicalaidd Basgaidd (er fod rhai fel Eskorbuto yn gwrthod unrhyw label o’r fath, yn naturiol). Doedd dim llawer o grwgnach yn y cyfnod am pwy oedd yn canu ym mha iaith chwaith.

Ond mae erthygl Sion Richards hefyd yn ddiddorol am dynnu sylw i faint o ffyrdd lleol sydd yna o gyfathrebu – trwy radio, papur neu ar y we  – i gymharu a ni. Werth mynd i weld gwefan Arrosa, er enghraifft , sy’n dangos a lincio i orsafoedd bach  sy’n darlledu ar draws y wlad ar y funud. Mae’n anhygoel, mae rhai ohonnynt wedi bod yn mynd ers blynyddoedd e.e. Tas-Tas Irratia, a rhai dal gyda gwreiddiau yn y gazteteak. Wedi fy atgoffa o’r egni ar lefel y mudiadau gwleidyddol/ieithyddol cymunedol sydd dal yna yng Ngwlad y Basg, a fod pobl yn fwy dueddol o drefnu eu hunain a gwneud pethau, heb ddisgywl am grantiau neu go ahead swyddogol (os rhywbeth, yn enewedig yn y cyfnod nes i fyw yna, roedd y rhan fwyaf yn erbyn unrhyw sefydlaid, a’r rhan fwyaf o bethau ‘swyddogol’).

Mae’n werth mynd i edrych ar  Goiena, dim ots faint o Fasgeg mae rhywun yn ei ddallt.  Papur bro ar steroids, a beth fydda rhywun yn hoffi weld mwy ohonno yma. Mae’r manylion bach dwi rioed wedi weld yn digwydd yn y Gymraeg e.e. mae pen y tudalen yn eich rhybuddio fod bar llywio y browser ddim yn y Basgeg, ac yn cynnig i chi newid hynny. Mae hyd yn oed edrych ar tudalen coffa ar y gwaelod yn ddiddorol (mae cael lluniau fel ‘na o’r pobl sydd wedi gadael y byd ‘ma yn gyffredin yn y papurau newydd draw yna hefyd – ond i weld popeth mewn lliw…). Sylwi fod yna rhyw fath o nawdd gan Llywodraeth Gwlad y Basg, sy’n amlwg gyda presenoldeb/strategaeth cyflawn i bethau fel hyn a hefyd talaith Guipuzkoa (Gwynedd ar steroids mewn ffordd…bydda ‘na bapur diddorol yn cymharu cynnwys y ddau wefan ‘swyddogol’ i rhyw fyfyriwr).