Tag Archives: morocco

Caerdydd – Gatwick – Fez – Marrakesh

Siwrna di-lol: Caerdydd i Gatwick ar y bws, trwy popeth yn hawdd, wedyn yn Gatwick aros cwpl o oriau am yr awyren. Ar y ffleit, cyfarfod a dechrau siarad gyda dynes hŷn or enw Jean, oedd yn eistedd gyferbyn. Roedd Jean o Essex, mynd allan i Marrakech am y pedwerydd gwaith – cariad (ifanc?) allan yno medda hi. Distawrwydd i ddechra wedyn y stori bywyd, er fod ddim gwir diddordeb o’n hochor ni. Wedi gwisgo mewn tracksuit Umbro du ac yn amlwg newydd cael gwneud ei gwallt a’i hewinedd. Rhywbeth eitha Janet Street Porter –aidd  amdani (nid jest yr acen).  Dysgom fod: hi’n nain, ei merch yn briod ac Algerian (a bod hi, y ferch, wedi troi tuag at Islam, tra bod ei gwr yn troi’n fwy gorllewinol), bod ei cyn-wr wedi priodo tair gwaith a fod ei wraig presennol o Thailand, bod Jean ei hun yn gweithio yn y Ddinas yn Llundain, ac ei bod hi’n meddwl gwerthu popeth er mwyn prynu rhywle ym Marrakech. Ei lle ffefryn yn Marrakech oedd y Jemaa, rhaid rhaid rhaid mynd i’r Jemma. Ar ôl glanio, dwedsom ffarwel, pob lwc…

P’tit taxi yn syth i ganol y dref, a chael ein gollwng digon agos mwy neu lai – ond dim digon agos. Deng munud o chwilota ac edrych yn y Rough Guide yn ddiweddarach, gan drio peidio edrych yn rhy amlwg ein bod ni’m yn gwybod y ffordd. Hmmm, anodd gyda phaciau mawr ar y cefn. Y stryd gyntaf yn un rhodfa  fawr boeth o bobl yn mynd a dod, ond dim gormod o bobl yn haslo.

Jemaa el Fnaa, lle y meirw yn y ôl un cyfieithiad, yn y tywyllwch y tro cyntaf, mwg mawr bob math o gig y cael ei goginio yn codi i’r awyr o’ch blaen, goleuadau trydan yn rhoi bywyd i’r mwg. Lle hollol wallgo i’n llygaid ni mewn ffordd, swn aruthrol bob math o ddrwm neu pib yn yr awyr. Ar ôl setlo mewn i’r hotel (Jnane Mogador), un steil riad braf gyda ffynon yn y canol, yn edrych i fyny ar y ser, aethom allan i eistedd ar  deras ar ochor y sgwar a’i thorfeydd amryliw o bobl yn mynd a dod, gweiddi, gwrando a sgwrsio, jeans, djellabas a pibgyrn. Te mintys cyntaf, melys iawn. Wedi blino, nol am nightcap hapus, ar wyliau o’r diwedd.

Jemaa gyda'r nos