Nes i fwynhau’r gynhadledd #senedd2011 ychydig ddiwrnodau’n Ă´l, yn enwedig cyfraniad Andy Williamson o’r Gymdeithas Hansard. Yn sicr, roedd yna ymgais yma i geisio edrych ar dechnoleg, ymgyrchu a syniadau o ddemocratiaeth, a hynny ar ddiwrnod olaf ein Cynulliad presennol.
Er fod yr amcanion yn rhai da, a dwi’n siwr wnawn ni weld datblygu tipyn o’r syniadau o’r diwrnod, nes i fedddwl ychydig wedyn bod yn dal broblemau dwfn yn nhermau cysylltu ewyllys da bloghwyr, gwleidyddion a phobl sy’n ymwneud a’r cyfryngau yn gyffredinol – a pawb arall yng Nghymru. Mae’r problemau yma’n rhai dwfn, strwythurol sydd efallai angen atebion dwfn, strwythurol, er enghraifft ymgais o ddifrif gan pwy bynnag sydd mewn llywodraeth y tro nesaf i sicrhau fod band eang go iawn ar gael i bawb yn y wlad, rhywbeth yn sicr mae Plaid yn son amdano. A fydd yna ddigon o arian yn cael ei roi i hyn yn gwestiwn mawr – oherwydd tydi strategaeth llywodraeth Llundain (quelle surprise…gadael o i’r farchnad…) ddim yn mynd i helpu neb yn y pendraw.
Ond hefyd, ges i’r teimlad fod yna elfen arall sydd ddim yn cael ei drafod lawer. Mae’r syniadau yma o ddinasyddiaeth gweithredol, sy’n rhedeg ar draws pob llywodraeth o bob lliw erbyn hyn, mewn ffordd yn profi pa mor ddwfn mae syniadau neo-rhyddfrydol wedi treiddio.