Roedd y stori yn Golwg 360 am sefyllfa’r iaith yn Sir Gar wythnos diwethaf yn dorcalonnus mewn sawl ffordd, er doedd rhoi’r lot o’r bai ar ddarpariaeth tai cymdeithasol ddim yn deg iawn dwi’n meddwl. Beth sydd wedi aros gyda fi trwy’r wythnos yw un o’r vignette oedd wrth ochor y prif stori: rhyw gwpwl oedd yn Gymry, wedi eu dwyn i fyny yn y gymraeg ac yn siarad gyda’r plant yn gymraeg, ond ddim yn siarad cymraeg i’w gilydd.
Dwi’n wedi dod ar draws lot o gwplau fel hyn, yn dallt y dynamic fod pobol yn dod i adnabod eu gilydd mewn un iaith a bod hi’n anodd newid wedyn, ond pan mae’r ddau yn dod o gefndir gwbwl Cymraeg, does dim byd mwy amlwg fod shifft ieithyddol yn digwydd. Ond mae o hyd yn sioc clywed cwpwl yn siarad saesneg gyda’i gilydd (….yn aml hefyd, saesneg weddol ‘tlawd’ mae gen i ofn….), a wedyn gweld nhw’n troi rownd a sairad cymraeg perffaith gyda’r plentyn. Yn amlwg, beth bynnag yw’r amcanion da o yrru plentyn try addysg gymraeg ayyb, dwi’n tybio fod yna siawns dda neith y plentyn yna ffeindio hi’n anodd wedyn gweld gwerth yn yr iaith mewn unrhyw berthynas agos nes ymlaen – oes yna ymchwil wedi wneud i hyn sgwn i?
Dros y blynyddoedd mae’r gwirionedd yn y ddihareb basgeg uchod wedi dod yn yn rhywbeth dwi’n weld yn hollol wir: ni chollir iaith oherwydd nad yw’r rhai sydd ddim yn ei wybod ddim yn ei ddysgu, ond oherwydd fod y sawl sydd yn gallu siarad ddim yn gwneud hynny. Llai o gwyno am mewnfudwyr a phobol mewn tai cymdeithasol efallai.